Wednesday, February 3, 2016

Cymru heb Ddiwylliant?

Dydd Sadwrn yma (6 Chwefror), fe fydd yna orymdaith dra wahanol i'r arfer yn digwydd yn ein prif ddinas - gorymdaith dros ddiwylliant. Cafodd ei threfnu mewn ymateb i'r toriadau arfaethedig i'r celfyddydau yng nghyllideb ddrafft Cyngor Caerdydd, a allai beryglu dyfodol Artes Mundi, Canwr y Byd a llu o ddigwyddiadau/ gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol yn y ddinas. Daw hyn law yn llaw a thoriadau gan Lywodraeth Cymru (yn sgil y setliad i'r Cynulliad o San Steffan) i nifer o sefydliadau cenedlaethol diwylliannol sydd yn ariannu digwyddiadau/ unigolion yn y celfyddydau, neu sydd a'u pencadlys yng Nghaerdydd.

Rhaid cofio nad dyma'r tro cyntaf i Gyngor Caerdydd dorri cyllidebau celfyddydol a diwylliannol. Fodd bynnag, mae yna deimlad cryf bod y Cyngor wedi mynd rhy bell y tro yma ac mewn peryg o golli golwg o werth buddsoddi mewn diwylliant i economi'r ddinas, a lles ei hymwelwyr a'i thrigolion.

Dyma sydd wedi sbarduno'r ymgyrch Caerdydd heb Ddiwylliant? sy'n gofyn i bobl ystyried effaith diffyg buddsoddiad o ran hunaniaeth ac endid Caerdydd, a hefyd Cymru fel cenedl. Ac nid dim ond i Gaerdydd mae'r ymgyrch hon yn berthnasol. Mae bron pob Cyngor yng Nghymru wedi torri, ac yn bwriadu torri ymhellach, eu gwariant o ran y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.

Gwn nad oes pot diddiwedd o arian, a bod rhaid i gyrff a sefydliadau wneud penderfyniadau anodd yn sgil y toriadau i'w cyllidebau. Gen i gydymdeimlad garw a'r rhai sy'n gorfod gweithredu'r toriadau hynny. Fodd bynnag, fel cenedl, fe ddylem boeni fod y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant yn dechrau cael eu gweld fel pethau na allwn bellach fforddio buddsoddi ynddynt. Mewn geiriau eraill, mae rhai yn eu hystyried yn bethau sydd yn iawn i'w harianu pam mae digonedd o bres ar gael, ond nid ydynt yn angenrheidiol mewn cyfnod o doriadau.

Hanfod bodolaeth Cymru fel cenedl yw ein diwylliant. Dyma'r hyn sydd yn ein gwneud yn wahanol ac yn unigryw. A dyma hefyd sy'n allweddol bwysig o ran ein dyfodol economaidd o ran denu ymwelwyr, cwmnïau a buddsoddiadau i'n gwlad. Os gollwn ni'n hunaniaeth, fe gollwn ni'r arf economaidd mwyaf pwerus sydd gennym.

Hyder sydd ei angen arnom os ydym am gystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Hyder o ran pwy ydym ni, a'r hyn sydd gennym i gynnig. Mae diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth yn rhan hanfodol o hyn a dylai cyllidebau adlewyrchu hynny.

Yr hyn sy'n codi fy nghalon am yr ymgyrch Caerdydd heb Ddiwylliant? ydi'r ffaith fod yna bobl o lu o wahanol wledydd, ond sydd wedi dewis Caerdydd fel eu cartref, yn ei chefnogi. Diwylliant Caerdydd a Chymru sydd wedi denu nifer ohonynt yma, ac yn fwy na dim, sydd wedi eu cadw yma. Er nad ydynt i gyd yn siarad Cymraeg, maent yn deall pwysigrwydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd - rhywbeth arall sydd yn gryfder gennym fel cenedl.

Edrychaf ymlaen at orymdeithio dydd Sadwrn, a chefnogi'r ymgyrch wrth iddi ddatblygu, a lledaenu gobeithio ledled ein cenedl. Dyma un frwydr na allwn fforddio ei cholli.

Am ddarn llawer gwell na hwn ynglŷn â'r ymgyrch yng Nghaerdydd, mae'n werth darllen yr erthygl hon gan Geraint Talfan Davies.

Dilynwch yr ymgyrch Caerdydd heb Ddiwylliant yma: https://www.facebook.com/cardiffwithoutculture/?fref=nf

No comments: