Monday, March 3, 2014

Pigo Cydwybod

Neithiwr, fe wyliais raglen Cwmni Da - Merêd - sef portread o Dr Meredydd Evans. Anhygoel meddwl bydd o'n 95 eleni. Ac anhygoel meddwl am yr hyn mae o wedi gyflawni yn ei fywyd.

Roedd hi'n raglen gynnil a syml, ac roedd hyn yn ein galluogi fel gwylwyr i ganolbwyntio ar Merêd a'r hyn 'roedd yn ei ddweud. Roedd hi'n raglen emosiynol iawn hefyd, ac amryw o weithiau, fe lanwodd fy llygaid a dagrau wrth iddo rannu gyda ni ei feddyliau am Gymru, y Gymraeg a'i fywyd. Ac wrth gwrs, ei berthynas a Phyllis. Cefais y fraint o dreulio cryn amser yng nghwmni Phyllis pam wnaeth fy rhieni raglen deledu amdani. Roedd yn amser arbennig iawn, ac fe greodd gryn argraff arna'i. Ac fe gawsom goblyn o hwyl hefyd.

Ond yn ol at neithiwr. Mae nifer o'r hyn ddywedodd Merêd wedi pigo fy nghydwybod. Heb os, mae o wedi dangos dewrder a chryfder drwy ei fywyd wrth ymladd dros barhad yr iaith. Er mod i'n ei adnabod, ac yn ymwybodol o nifer o bethau mae wedi ei gyflawni, doeddwn i ddim yn ymwybodol neu'n cofio mai mewn araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y rhybuddiodd yn gadarn ynglyn a dyfodol yr iaith. Ac er gwaetha'r ffaith fod pobl wedi ei gyhuddo o fod yn hiliol oherwydd ei sylwadau, fo oedd yn llygad ei le. Gresyn na wnaeth mwy o bobl gymryd sylw amser hynny, a gweithredu. Mi yda ni, yn anffodus, yn rhy barod i fod yn obeithiol yn hytrach na wynebu'r hyn sydd yn digwydd o'n cwmpas, mewn cymunedau ledled Cymru. Er ein bod yn cytuno. ar y cyfan, fod rhaid gwneud rhywbeth am y peth a'i bod yn sefyllfa drist, lle mae'r gweithredu fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? A beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd i atal dirywiad pellach o ran nifer siaradwyr Cymraeg ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad diwethaf? Yda ni rhy 'boleit' fel Cymry Cymraeg i wneud yr hyn sydd ei angen?

Nid son ydw i ynglyn a phroestio ac ati. Ond yn hytrach gweithredu o ran newid polisiau ar lefel leol a chenedlaethol fydd yn creu newid gwirioneddol. Pam na fu fwy o drafod ar syniadau radical, newydd, megis rhai Adam Price yn ei bapur Arfor a ganfyddir drwy glicio yma. Tydw i ddim yn honni bod cynllun Adam yn berffaith, ond mae'r syniadau sydd yn y papur hwn werth eu trafod a'u datblygu ymhellach. Mae nhw'n gyffrous. Mae nhw'n cynnig gobaith gwirioneddol i barhad y Gymraeg. Pam na wnawn ni ystyried gwneud rhywbeth hollol wahanol, cyn i bethau waethygu?

A dyma pam mae fy nghydwybod yn teimlo'n anestmwyth. Beth ydw i wedi ei wneud, mewn gwirionedd, i ymateb i heriadau o'r fath? Ambell araith. Ambell erthygl. Cwyno gyda ffrindiau. Helpu i gyhoeddi papur Adam. Ond wedi hynny, dim. A dwi'n teimlo cywilydd mawr am hynny. Fedra'i ddim bodloni ar gwyno a disgwyl i eraill ddatrys y broblem os ydi pobl 94 oed yn gwneud gymaint mwy!

Dwi'm isho cyrraedd diwedd fy oes, a meddwl mod i heb drio fy ngorau i frwydro dros ddyfodol gwlad a iaith dwi'n credu'n angerddol ynddi. A diolch i raglen neithiwr, a geiriau Merêd am fy atgoffa o hynny. A gan fy mod mewn hwyliau sentimental, dwi am eich gadael am heno hefo un o fy hoff gerddi gan T.H.Parry Williams, sy'n dod i'r cof yn aml pan dwi'n meddwl am fod yn Gymraes!

Hon

Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap

Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.

A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi

 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd.

Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.

Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll.

Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.

Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Do'n i heb ddarllen papur Adam Price cyn hyn, felly diolch am y ddolen. Cytunaf ein bod yn edrych llawer gormod tuag at y llywodraeth(au) am gyllid at bethau pan dylem, a gallwn fod yn ariannu pethau ein hunain.