Thursday, September 19, 2013

Môn a San Steffan


Yn groes i’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ambell berson, does dim sail i’r si fy mod wedi rhoi fy enw gerbron fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn San Steffan. A hoffwn gadarnhau yma na fyddaf yn gwneud chwaith.
Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd. Ers imi gystadlu am sedd y Cynulliad ym Mehefin, mae nifer o aelodau Môn wedi cysylltu â mi yn gofyn imi roi fy enw gerbron ac yn datgan eu cefnogaeth. Heb os, cefais fy nhemtio. Dyma’r ardal lle cefais fy magu. Dwi’n teimlo’n agerddol dros yr Ynys, ac yn poeni am ei dyfodol. A dwi’n parchu aelodau’r Blaid ym Môn hefyd ac yn casáu meddwl mod i’n siomi nifer ohonynt drwy beidio mynd am yr enwebiad. Dwi’n grediniol bod gan y Blaid obaith gwirioneddol o gipio’r sedd oddi ar y Blaid Lafur yn 2015 yn sgil canlyniadau gwych eleni yn etholiadau’r Cyngor Sir a wedyn buddugoliaeth ysgubol Rhun. Dwi’n siŵr y bydd hi’n ymgyrch egnïol a difyr. Pe byddwn wedi sefyll a chael fy mabwysiadu yn ymgeisydd, fe fyddwn wedi symud i Fôn ac ymgyrchu yn galed i adennill y sedd a mwynhau pob eiliad. Ond, er gwaetha’r temtasiwn o gael cyfle posibl i fod yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru a sicrhau bod Môn yn wyrdd yn San Steffan hefyd, mae yna resymau pam fy mod wedi penderfynu peidio mynd amdani. Ac i roi taw ar y sibrydion, mae’n well imi fod yn agored am y peth, a rhannu fy rhesymau hefo chi.
Y prif reswm ydi hyn: Aelod Cynulliad nid Aelod Seneddol fyddwn i’n hoffi bod. Dwi wedi gweithio yn San Steffan i Aelodau Seneddol y Blaid. Dwi’n deall y swydd, a pha mor galed maen nhw’n gweithio yno. Mae’r oriau yn faith. Ac mae’r bywyd yn Llundain yn un hynod o unig. Fedrwch chi ddim dod a’ch teulu hefo chi, a fasa nhw ddim yn eich gweld chi beth bynnag oherwydd oriau’r Senedd. I berson sengl neu rywun hŷn, mae hyn yn iawn. Ond - pedwar mis oed ydi Twm, fy mab. Byddai bod yn Aelod Seneddol yn golygu peidio ei weld am dair neu bedair noson bob wythnos yn ystod tymor y Senedd. Mi fasa’n torri fy nghalon i wneud hynny. Fasa'r un peth ddim yn wir am y Cynulliad wrth gwrs. Er bod Caerdydd yn bell iawn o’r Gogledd, y gwir amdani ydi y byddai’n bosib i Twm drafeilio hefo fi i Gaerdydd. Mae oriau gwaith y Cynulliad yn llawer mwy cyfeillgar i deuluoedd, a gallwn ei weld mwy neu lai bob nos. Hyd yn oed ar ôl iddo ddechrau yn yr ysgol, gallwn wneud fel mae ambell Aelod Cynulliad arall wedi ei wneud, a’i yrru i ysgol yng Nghaerdydd. Byddai yno hefo fi drwy’r wythnos, ac i fyny yn y Gogledd ar y penwythnosau. Er nad yw hynny’n ddelfrydol, byddai’n golygu na fyddwn i’n gorfod dewis rhwng gyrfa wleidyddol neu fod yn Fam.

Cofiwch chi, nid pawb sy’n cytuno y dylwn i geisio cael fy ethol i’r Cynulliad rŵan mod i’n Fam. Cefais sioc fawr, a fy siomi, o dderbyn tua hanner dwsin o negeseuon digon ffiaidd ar ol mynd am enwebiad Môn pan oedd  Twm yn chwe wythnos oed. A dwn i ddim faint o bobl ddywedodd wrthai yn yr Eisteddfod ei bod yn fendith na chefais fy newis er mwyn imi allu bod yn “Fam Iawn” i Twm. Dywedwyd bod gennyf ddigon o amser i fynd am y Cynulliad pan mae o’n hŷn. Tan hynny, ro’n i wastad wedi meddwl bod ein cymdeithas wedi newid a bod dynion a merched bellach yn gyfartal. Ond crafwch dan yr wyneb, ac edrych ar rai o’r sylwadau sy’n ymddangos ar Golwg 360, ac mi welwch chi pa mor barod ydi pobl i feirniadu merched sydd yn meiddio herio, a dangos unrhyw fath o uchelgais. Bitsh neu ast ydach chi os dangoswch unrhyw fath o dân, tra bod dynion cyffelyb yn “gryf”, ac yn “arweinwyr cenedl”. Bonws ydi’r ffaith bod nhw’n ddynion teulu. Does neb yn gweld bai arnyn nhw am adael eu plant er mwyn dilyn eu huchelgais wleidyddol. Dim rhyfedd bod llai o ferched  yn fodlon rhoi eu henwau ymlaen pan mai dyma’r math o agweddau sydd yn ein hwynebu.

Ond, er imi gael fy nadrithio rywfaint gan rai o’r agweddau hyn, dwi ddim am adael i ambell unigolyn sexist ennill chwaith. Mae’r mwyafrif o bobl wedi bod yn gefnogol imi, a dwi am barhau i geisio cael fy ethol yn Aelod Cynulliad. Caerdydd ydi’r lle i fod, nid Llundain. Yn wir, dwi’n mawr obeithio na fydda ni angen gyrru neb i Lundain cyn hir ac y bydd grym ein Senedd ein hunain yn parhau i gynyddu. Mae bod yn brif blaid yn y Cynulliad o fewn ein cyrraedd, a hoffwn fod yn rhan o’r tîm sy’n arwain ein cenedl tuag at annibyniaeth.

Dwi’n poeni am ddyfodol Cymru, a hoffwn gael y cyfle i chwarae rhan flaenllaw mewn newid ein cenedl er gwell. Dwi isho arwain drwy esiampl, yn hytrach na chwyno o’r ochrau. Dwi’n poeni hefyd am ddyfodol yr ardaloedd lle y cefais fy magu ym Mon ac Arfon, ac am y bobl sydd yn ei chael hi’n anodd cynnal bywoliaeth yno neu ganfod swydd. Dwi’n gwybod o brofiad pa mor brin ydi swyddi yno. Dwi’n un o’r bobl sydd wedi gorfod symud i Gaerdydd i ganfod swydd gan nad oedd un addas ar gael yn y Gogledd. Gall Aelod Cynulliad wneud cymaint o wahaniaeth ar ran ei etholwyr, a dyna brif apêl y swydd i mi. Hyd nes daw’r cyfle i sefyll, byddaf yn parhau yn aelod gweithgar ar draws Cymru, ac yn cefnogi ein hymgeiswyr ym mhob etholiad. Er mai ym Mhontypridd dwi’n byw ar y funud, mae fy nghalon yn parhau yn y Gogledd ac yno dwi’n gweld fy nyfodol.
Dwi’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn sefyll ym Môn ar gyfer San Steffan, a pwy gaiff eu dewis. Pob lwc i bawb sydd yn ddigon dewr i fynd amdani. Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi ymgyrch y person buddugol a’u helpu, gobeithio, i ennill y sedd. Dyna fyddai’r canlyniad gorau posibl, nid i Blaid Cymru yn unig, ond i bobl Môn hefyd.

No comments: