Sunday, November 17, 2013

10k - dal yn fyw!

Mae gen i ychydig o gywilydd mod i wedi bod yn poeni cryn gymaint am gwbwlhau fy ras 10k gyntaf erioed. Yn arbennig felly o weld ar Twitter a Facebook pa mor aml mae nifer o fy ffrindiau yn rhedeg hyn neu'n bellach jest am hwyl, heb son am faint sy'n cwbwlhau marathon o leiaf dwy waith y flwyddyn. Ond - mae'n rhaid i bawb ddechrau'n rhywle yn does. A dyma oedd fy nechrau i heddiw 'ma, fel rhan o Morunning ym mharc Bute Caerdydd.

Roeddwn yn rhedeg fel rhan o dim Fit Mums South Wales, sydd yn grwp ymarfer corff rwyf yn mynychu. Syniad ein hyfforddwraig, Abi, oedd annog 35 ohonom i redeg a dwi'n falch iddi wneud hynny. Ffordd dda o sicrhau ein bod yn ymarfer corff yn rheolaidd ers i'r clociau droi nol, a profi gallwn fod yn fwy ffit nag oeddem cyn cael plant! Roedd yna awyrgylch arbennig wrth imi redeg, ynghyd a chefnogaeth aruthrol drwy gydol yr amser roeddwn yn rhedeg er fy mod yn araf fel malwen. Y peth pwysicaf i bawb oedd cefnogi'r elusen - a cwbwlhau! (Fe enillodd Abi y 10k gyda llaw!)

Dwi'n berson hynod o gystadleuol fel arfer, ond roedd rhaid imi dderbyn heddiw nad oeddwn ym mynd i gwbwlhau mewn amser cyflym. Yn wir, dwi'n siwr bod rhai pobl yn cerdded 10k yn gynt na dwi'n medru ei redeg. Ond dyna ni. I ddynes oedd methu rhedeg o gwbwl drwy gydol fy mywyd, dwi'n hapus mod i wedi llwyddo i orffen. A dim ond gwella medrith fy amser erbyn flwyddyn 'nesa!

Diolch i Geraint a Twm am ddod i fy nghefnogi. A diolch i bawb am y geiriau o gefnogaeth, unai wyneb yn wyneb neu drwy rydweithiau cymdeithasol. Bu'n hwb aruthrol. Hynny, a gwrando ar gerddoriaeth Bryn Fon a Tom Jones ar fy ipod wrth redeg o gwmpas! Diolch iddynt hwythau hefyd am fy nghadw i fynd!


Tuesday, September 24, 2013

Ein Priodas - Our Wedding

Ar y 7fed o Fedi, fe briododd Geraint Day a minnau yn Gregynog, Sir Drefaldwyn. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy, a gan mod i'n arfer rhannu digwyddiadau fy mywyd yma, dyma lun neu ddau o'r diwrnod wedi eu tynnu gan Keith Morris. Teimlo'n ddynes lwcus iawn.

On the 7th September, Geraint Day and I were married at Gregynog Hall, Montgomeryshire. It was a fantastic day, and as I usually share my live events on my blog, here are a few photos taken by Keith Morris. I feel like the luckiest woman on earth!


 

Thursday, September 19, 2013

Môn a San Steffan


Yn groes i’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ambell berson, does dim sail i’r si fy mod wedi rhoi fy enw gerbron fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn San Steffan. A hoffwn gadarnhau yma na fyddaf yn gwneud chwaith.
Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd. Ers imi gystadlu am sedd y Cynulliad ym Mehefin, mae nifer o aelodau Môn wedi cysylltu â mi yn gofyn imi roi fy enw gerbron ac yn datgan eu cefnogaeth. Heb os, cefais fy nhemtio. Dyma’r ardal lle cefais fy magu. Dwi’n teimlo’n agerddol dros yr Ynys, ac yn poeni am ei dyfodol. A dwi’n parchu aelodau’r Blaid ym Môn hefyd ac yn casáu meddwl mod i’n siomi nifer ohonynt drwy beidio mynd am yr enwebiad. Dwi’n grediniol bod gan y Blaid obaith gwirioneddol o gipio’r sedd oddi ar y Blaid Lafur yn 2015 yn sgil canlyniadau gwych eleni yn etholiadau’r Cyngor Sir a wedyn buddugoliaeth ysgubol Rhun. Dwi’n siŵr y bydd hi’n ymgyrch egnïol a difyr. Pe byddwn wedi sefyll a chael fy mabwysiadu yn ymgeisydd, fe fyddwn wedi symud i Fôn ac ymgyrchu yn galed i adennill y sedd a mwynhau pob eiliad. Ond, er gwaetha’r temtasiwn o gael cyfle posibl i fod yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru a sicrhau bod Môn yn wyrdd yn San Steffan hefyd, mae yna resymau pam fy mod wedi penderfynu peidio mynd amdani. Ac i roi taw ar y sibrydion, mae’n well imi fod yn agored am y peth, a rhannu fy rhesymau hefo chi.
Y prif reswm ydi hyn: Aelod Cynulliad nid Aelod Seneddol fyddwn i’n hoffi bod. Dwi wedi gweithio yn San Steffan i Aelodau Seneddol y Blaid. Dwi’n deall y swydd, a pha mor galed maen nhw’n gweithio yno. Mae’r oriau yn faith. Ac mae’r bywyd yn Llundain yn un hynod o unig. Fedrwch chi ddim dod a’ch teulu hefo chi, a fasa nhw ddim yn eich gweld chi beth bynnag oherwydd oriau’r Senedd. I berson sengl neu rywun hŷn, mae hyn yn iawn. Ond - pedwar mis oed ydi Twm, fy mab. Byddai bod yn Aelod Seneddol yn golygu peidio ei weld am dair neu bedair noson bob wythnos yn ystod tymor y Senedd. Mi fasa’n torri fy nghalon i wneud hynny. Fasa'r un peth ddim yn wir am y Cynulliad wrth gwrs. Er bod Caerdydd yn bell iawn o’r Gogledd, y gwir amdani ydi y byddai’n bosib i Twm drafeilio hefo fi i Gaerdydd. Mae oriau gwaith y Cynulliad yn llawer mwy cyfeillgar i deuluoedd, a gallwn ei weld mwy neu lai bob nos. Hyd yn oed ar ôl iddo ddechrau yn yr ysgol, gallwn wneud fel mae ambell Aelod Cynulliad arall wedi ei wneud, a’i yrru i ysgol yng Nghaerdydd. Byddai yno hefo fi drwy’r wythnos, ac i fyny yn y Gogledd ar y penwythnosau. Er nad yw hynny’n ddelfrydol, byddai’n golygu na fyddwn i’n gorfod dewis rhwng gyrfa wleidyddol neu fod yn Fam.

Cofiwch chi, nid pawb sy’n cytuno y dylwn i geisio cael fy ethol i’r Cynulliad rŵan mod i’n Fam. Cefais sioc fawr, a fy siomi, o dderbyn tua hanner dwsin o negeseuon digon ffiaidd ar ol mynd am enwebiad Môn pan oedd  Twm yn chwe wythnos oed. A dwn i ddim faint o bobl ddywedodd wrthai yn yr Eisteddfod ei bod yn fendith na chefais fy newis er mwyn imi allu bod yn “Fam Iawn” i Twm. Dywedwyd bod gennyf ddigon o amser i fynd am y Cynulliad pan mae o’n hŷn. Tan hynny, ro’n i wastad wedi meddwl bod ein cymdeithas wedi newid a bod dynion a merched bellach yn gyfartal. Ond crafwch dan yr wyneb, ac edrych ar rai o’r sylwadau sy’n ymddangos ar Golwg 360, ac mi welwch chi pa mor barod ydi pobl i feirniadu merched sydd yn meiddio herio, a dangos unrhyw fath o uchelgais. Bitsh neu ast ydach chi os dangoswch unrhyw fath o dân, tra bod dynion cyffelyb yn “gryf”, ac yn “arweinwyr cenedl”. Bonws ydi’r ffaith bod nhw’n ddynion teulu. Does neb yn gweld bai arnyn nhw am adael eu plant er mwyn dilyn eu huchelgais wleidyddol. Dim rhyfedd bod llai o ferched  yn fodlon rhoi eu henwau ymlaen pan mai dyma’r math o agweddau sydd yn ein hwynebu.

Ond, er imi gael fy nadrithio rywfaint gan rai o’r agweddau hyn, dwi ddim am adael i ambell unigolyn sexist ennill chwaith. Mae’r mwyafrif o bobl wedi bod yn gefnogol imi, a dwi am barhau i geisio cael fy ethol yn Aelod Cynulliad. Caerdydd ydi’r lle i fod, nid Llundain. Yn wir, dwi’n mawr obeithio na fydda ni angen gyrru neb i Lundain cyn hir ac y bydd grym ein Senedd ein hunain yn parhau i gynyddu. Mae bod yn brif blaid yn y Cynulliad o fewn ein cyrraedd, a hoffwn fod yn rhan o’r tîm sy’n arwain ein cenedl tuag at annibyniaeth.

Dwi’n poeni am ddyfodol Cymru, a hoffwn gael y cyfle i chwarae rhan flaenllaw mewn newid ein cenedl er gwell. Dwi isho arwain drwy esiampl, yn hytrach na chwyno o’r ochrau. Dwi’n poeni hefyd am ddyfodol yr ardaloedd lle y cefais fy magu ym Mon ac Arfon, ac am y bobl sydd yn ei chael hi’n anodd cynnal bywoliaeth yno neu ganfod swydd. Dwi’n gwybod o brofiad pa mor brin ydi swyddi yno. Dwi’n un o’r bobl sydd wedi gorfod symud i Gaerdydd i ganfod swydd gan nad oedd un addas ar gael yn y Gogledd. Gall Aelod Cynulliad wneud cymaint o wahaniaeth ar ran ei etholwyr, a dyna brif apêl y swydd i mi. Hyd nes daw’r cyfle i sefyll, byddaf yn parhau yn aelod gweithgar ar draws Cymru, ac yn cefnogi ein hymgeiswyr ym mhob etholiad. Er mai ym Mhontypridd dwi’n byw ar y funud, mae fy nghalon yn parhau yn y Gogledd ac yno dwi’n gweld fy nyfodol.
Dwi’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn sefyll ym Môn ar gyfer San Steffan, a pwy gaiff eu dewis. Pob lwc i bawb sydd yn ddigon dewr i fynd amdani. Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi ymgyrch y person buddugol a’u helpu, gobeithio, i ennill y sedd. Dyna fyddai’r canlyniad gorau posibl, nid i Blaid Cymru yn unig, ond i bobl Môn hefyd.

Sunday, June 30, 2013

Rollercoaster

Well, the past week and a half has been something of a rollercoaster. One minute I was going for Arfon, the next minute I was being urged to pull out of the race and go for Ynys Mon as Ieuan had stepped down of the Assembly with immediate effect and a by-election was imminent. As an Anglesey girl, it had always been my dream to represent the island and though the timing wasn't ideal (given that my son was only six weeks old), I decided to go for it.

Whilst some were advising me to keep my name in for both constituencies, I felt that wouldn't be fair on either Arfon or Ynys Mon. Ideally, both selections wouldn't have taken place during the same week but c'est la vie. Yes, standing down from one race to enter another did open me up to criticism that I was a political butterfly but believe me, it was one of the toughest decisions I've ever made. I had a lot of support in Arfon, and I hated letting people down by pulling out of the race. But on the other hand, I had people I've known all my life asking me to go for Ynys Mon...

Do I regret that decision? No. And if placed in the same position again, I would make the same decision. But I do regret how things came about, and that Ynys Mon had to rush the selection process. I did, however, enjoy the hustings. I was impressed by Ann, and though we were facebook friends prior to this week, I feel we definitely became real friends through the experience. I was also glad to have the opportunity to debate Wylfa, and explain my opposition to nuclear power in a constructive way.

I wish Rhun all the best. He has a fantastic team of people to help him in Anglesey, and I know they'll support him 100%. They know what they're doing, as was proven during the recent council elections on the island, and Plaid Cymru should have no problem keeping the seat. I look forward to going out to campaign during the next month, and taking Plaid's positive message out to the people of Ynys Mon.






Friday, June 21, 2013

Mynd am Fôn

Maen nhw’n dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Mae hynny’n sicr yn wir am wythnos yma. Pan roddais fy enw i mewn yn Arfon i gael fy ystyried fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad yn 2016, doedd dim awgrym na fyddai Ieuan Wyn Jones yn sefyll ym Môn eto. Fel yr ydym bellach yn gwybod, mae’r sefyllfa wedi newid yn syfrdanol o sydyn ac mae is-etholiad ar y gorwel yn fuan yn dilyn ei ymadawiad disymwth ddoe.

Ar ôl dwys ystyried, ac ar ôl derbyn nifer o negeseuon o gefnogaeth gan aelodau Ynys Môn, teimlaf fod yn rhaid imi ddilyn fy nghalon. Rwyf wedi penderfynu tynnu fy enw o’r ras am Arfon ac ymroddi’n llwyr i geisio cael fy newis i sefyll ar ran y Blaid yn is-etholiad Ynys Môn.

Mae’n ddrwg gen i siomi’r nifer o bobl yn Arfon oedd wedi datgan eu cefnogaeth imi, ond rwyf yn siwr y byddant yn deall fy nghyfyng gyngor a fy mhenderfyniad.

Hoffwn ddymuno pob lwc i’r ymgeisydd sydd ar ôl yn y ras, Sian Gwenllian.

Going for Môn

They say a week is a long time in politics. That’s certainly true of events this week. When I put my name forward to be considered as the next Plaid Cymru candidate for the 2016 Assembly election in Arfon, there was no indication that Ieuan Wyn Jones might not be standing in Anglesey again. As we now know, that situation has changed rapidly and a by-election is imminent after his departure yesterday.

Following careful consideration and many messages of encouragement from members in Ynys Mon, I feel I have to follow my heart. I have decided to withdraw from the race for Arfon to give my all in my bid to be selected as Plaid Cymru’s candidate in the Ynys Mon by-election.

To the many people of Arfon who had pledged their support for me, I am sorry to disappoint them but I’m sure they’ll understand my dilemma and my decision.

I would like to wish the remaining candidate, Sian Gwenllian, every success.

Tuesday, June 18, 2013

Cyfraniad aruthrol - a rhagor i ddod: Teyrnged i Ieuan Wyn Jones

Etholiad 1987 ydi'r etholiad cyntaf dwi'n ei gofio. Ro'n i'n chwech oed ar y pryd, ac yn byw ym mhentref Talwrn ger Llangefni, yng nghanol Ynys Mon. Roedd yna nifer o bobl roedda ni fel teulu'n ei nabod yn rhan o ymgyrch Ieauan Wyn Jones i geisio cael ei ethol yn Aelod Seneddol Mon, ac mae'r cynnwrf yr oedd pawb yn ei deimlo yn rywbeth wna'i fyth anghofio.

Roedd hi'n ymgyrch a hanner. Roedd yna lwyth o bobl o bob man, nid jest Mon, yn gweithio'n galed ar yr ymgyrch. Roedd yna hyd yn oed ganeuon arbennig wedi eu cyfansoddi i hybu'r ymgyrch! (Ro'n i'n arfer gwybod y geiriau i gyd, dyna pa mor aml y clywish i nhw). Dyma oedd dechrau fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth. Nid peth sych, diflas mohono bryd hynny - ond rhywbeth hwyl a chyffrous. Roedd y gobaith roedd pawb yn ei deimlo, ac wedyn y gorfoledd pan gafodd Ieuan ei ethol yn heintus. A dyma fi'n penderfynnu yr oed yna mai dyna'r llwybr yn hoffwn i ei ddilyn pan oeddwn yn tyfu fyny! Er fy mod rhy ifanc i ganfasio adeg hynny, mi wnes i fynd ati i godi arian ar gyfer ymgyrch Ieuan. Mi wnesh i a fy ffrind bigo/ dwyn blodau o ardd ei thad hi, a mynd ati i'w gwerthu o gwmpas y pentref. Jest dros bum punt wnaetho ni ei godi, a mi wnesh i ei gyflwyno iddo fel cyfraniad. Wrth iddo ddiolch i bawb yn dilyn cael ei ethol, mi gesh innau lun ohono gyda'i deulu yn dilyn y fuddugoliaeth gyda neges bersonol yn dweud diolch am y cyfraniad. Ro'n i wedi mopio! Ond hefyd, wedi fy ysgogi.

Yn ystod etholiad 2011 a minnau yn ymgeisydd ar gyfer rhestr y Gogledd, mi gesh i'r cyfle i ganfasio ym Mon gyda Ieuan Wyn Jones ar fwy nag un achlysur. Roedd yn fraint. Ac yntau wedi cynrychioli Mon ers cymaint o flynyddoedd, roedd yn amlwg fod ganddo bleidlais bersonol fawr. Roedd yna lwyth o bobl roedda ni'n dod ar eu traws yn diolch iddo am bethau yr oedd wedi gwneud i helpu eu teuluoedd dros y blynyddoedd. A dyna bwysigrwydd felly prif swydd unrhyw Aelod Cynulliad - helpu'r bobl mae o neu hi'n ei gynrychioli. Mi fydd yna lwyth o bobl heddiw yn talu teyrnged haeddianol i Ieuan am ei gyfraniad fel Arweinydd Plaid Cymru a fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru, ond ddyla ni ddim anghofio chwaith y gwaith wnaeth o yn Ynys Mon ar lawr gwlad.

Mae swydd newydd Ieuan yn swnio'n gyffrous iawn. Mae'n hawdd i wleidydd son am greu swyddi, ond dyma fo yn mynd ati i gryfhau economi'r Gogledd-Orllewin mewn ffordd ymarferol. Da gweld nad ymddeol mae o, dim ond ymddeol o'r Cynulliad. Bydd ganddo gyfraniad aruthrol i'w wneud yn y rol newydd hon, a fedra'i feddwl am neb mwy cymwys na fo ar ei chyfer.

Felly, yn syml, diolch i Ieuan am ei waith caled ar ran pobl Mon a'r genedl. Falch o weld bydd y gwaith hwnnw'n parhau wrth iddo gymryd y llyw ym Mharc Gwyddonoaeth Menai.

Tuesday, June 4, 2013

Mynd am Arfon


Heledd Fychan yn y ras am Arfon


Heddiw, cyhoeddodd yr ymgyrchwraig brofiadol, Heledd Fychan, Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol Plaid Cymru, ei bod wedi rhoi ei henw gerbron ar gyfer ceisio bod yn Aelod Cynulliad nesaf Arfon. Mae hyn yn dilyn penderfyniad yr AC presennol, Alun Ffred Jones, i beidio sefyll eto.

Dywedodd Heledd: "Mae Arfon yn etholaeth odidog i unrhyw un ei chynrychioli. Yma, cewch glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yn naturiol fel iaith bob dydd. A hynny gyda phrydferthwch Eryri a’r Fenai yn eich amgylchynu.

"Ond, mae yna sialensiau mawr yn ein wynebu hefyd. Heb swyddi i gadw ein pobl ifanc yn yr ardal, ac i’w denu yn nôl i fagu teuluoedd, gwanhau fydd ein cymunedau ynghyd a'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y cymunedau hyn. Rhaid mynd ati i drawsnewid yr economi leol, a chreu cyfleoedd o ran gwaith. Busnesau bach yw asgwrn cefn yr etholaeth, a rhaid eu cefnogi yn hytrach na'u cosbi. Yn ystod ein cyfnod mewn Llywodraeth, fe wnaeth Plaid Cymru ostwng trethi busnesau bach. Rhaid parhau gyda'r cymorth hwnnw.

"Cyfrifoldeb Aelod Cynulliad yw rhoi etholwyr yn gyntaf, a dyma fy addewid i bobl Arfon –gwrando arnynt, bod ar gael i roddi cymorth, cefnogi ac arwain ymgyrchoedd lleol, gweithio yn galed i gryfhau'r economi, a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.

"Mae gennyf oes o wasanaeth i’w gynnig i bobl Arfon, ynghyd a phrofiad ac egni. Mae yna waith mawr i’w wneud i greu gwell dyfodol i bobl yr ardal, a mawr obeithiaf gael y cyfle i’w cynrychioli."

*Gwybodaeth ychwanegol:

Yn wreiddiol o Fôn, mae Heledd wedi bod yn aelod o gangen Plaid Cymru yng Nghaernarfon ers 1996. Roedd hi’n ail ar restr Plaid Cymru ar gyfer sedd Gogledd Cymru yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011 a bu’n agos iawn i gael ei hethol. Hi hefyd heriodd Lembit Opik ym Maldwyn yn etholiad San Steffan yn 2010, gan gynyddu pleidlais y Blaid.

Mae Heledd ar gyfnod mamolaeth ar y funud, ar ôl dod yn fam i Tomos Geraint mis diwethaf. Yn arferol, mae hi’n gweithio i gorff cenedlaethol ledled Cymru a cyn hynny, bu’n gweithio i grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, a bu'n swyddog Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Iwerddon yn dilyn graddio mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Mae Heledd yn 32 mlwydd oed.

In the running for Arfon


Heledd Fychan in the running for Arfon


Today, the experienced campaigner, Heledd Fychan, Plaid Cymru’s Director of Policy and Political Education, announced that she will be seeking the party's nomination in the Arfon constituency for the 2016 Assembly election. This follows the decision of the current AM, Alun Ffred Jones, to retire at the next election.

Heledd said:“ Arfon is a beautiful constituency. Surrounded by the dramatic landscape of Snowdonia and the stunning Menai Straits, it is in many ways idyllic. It is also one of the heartlands of the Welsh language, where you can hear it being spoken as an everyday language.

“But, we also face a number of challenges. Without jobs to keep our young people in the area, and to allow them to return to raise their families, our communities and the bilingual nature of those communities, will deteriorate further. We must transform the local economy, and create greater opportunities. Small businesses are the backbone of the constituency, and they must be supported rather than punished. When in Government, Plaid Cymru reduced the business rate. This support must continue.


“An Assembly Member has a duty to put constituents first, and this is my promise to the people of Arfon – to listen to them, offer support, give backing to and lead local campaigns, work hard to strengthen the economy, and ensure Arfon's voice is heard in the Assembly in Cardiff.

"I have a lifetime of service to offer the people of Arfon, along with experience and energy. There is a great deal of hard work ahead to provide greater opportunities for people living in the area, and I very much hope that I will have the opportunity to represent the whole community.”

*Additional Information:

Originally from Anglesey, Heledd has been a member of the Plaid Cymru branch in Caernarfon since 1996. She was second on the North Wales regional list for Plaid Cymru in the 2011 Assembly election, and narrowly missed out on being elected. She also challenged Lembit Opik for the Montgomeryshire seat in the 2010 Westminster election, and increased Plaid Cymru’s vote.

Heledd is currently on maternity leave, after giving birth to Tomos Geraint last month. She usually works for a national institution across Wales, and prior to that, worked for Plaid Cymru in Westminster and was a National Students Union Officer in Ireland after graduating in History and Political Science from Trinity College Dublin.

Heledd is 32 years old.


Tuesday, May 14, 2013

Newid Byd - A Whole New Adventure

Wel, dim gwleidyddiaeth heddiw. Am 1:36am fore dydd Sul, fe aned mab bach i Geraint a finna - Tomos Geraint (Twm). Mi yda ni wedi mopio'n llwyr hefo fo yn barod! Roedd o'n 7 pwys 3 owns, ac mae o'n berffaith. Diolch i bawb sydd wedi cysylltu hyd yma hefo'u holl eiriau caredig. Yn bersonol, dwi dal yn synnu gafodd o ddim o'i eni ar ddiwrnod etholiadau Mon ar ol yr holl gyffro! Ond yn falch hefyd fod o'n hwyr. O leia fydd ei benblwydd ddim yn debygol o ddisgyn ar ddiwrnod etholiad yn y dyfodol!

At 1:36am on Sunday morning, Geraint and I welcomed to the world our son - Tomos Geraint (Twm). He's perfect, and we're thrilled! He weighed 7 pounds 3 ounces, and is full of life already. Thank you to everyone who's been in touch with their kind words. Still surprised he didn't arrive on the day of the Anglesey elections given how excited I was with Plaid Cymru's result! But also glad he was late making his arrival. At least his birthday isn't likey to clash with an election day in the future!

Friday, May 10, 2013

Yr un hen wleidyddiaeth?

Wel, mi oeddwn i'n anghywir yn darogan beth fyddai yn digwydd o ran rheoli Cyngor Mon yn sgil yr etholiad. Doeddwn i wir ddim wedi disgwyl i griw o annibynnwyr mor wahanol a'u gilydd uno mewn i grwp, a doeddwn i yn sicr wedyn ddim yn meddwl y byddai'r Blaid Lafur ym Mon yn uno hefo nhw! A hwythau wedi ymgyrchu drwy'r etholiad drwy ddweud na fyddant yn gwneud hynny, a hefyd oherwydd mai Gweinidog o'r Blaid Lafur yng Nghymru oedd wedi mynnu bod yr etholiad yn cael ei ohirio am flwyddyn ym Mon tra roedd newidiadau yn cael eu rhoi mewn lle i geisio cael gwared o gymaint o annibynnwyr o'r cyngor, fe gymerais yn ganiataol y byddent yn glynnu at eu hegwyddorion a'u haddewidion. Dim rhyfedd bod pobl yn cael trafferth ymddiried mewn pleidiau gwleidyddol pan maent yn dweud un peth ac yn gwneud rhywbeth hollol wahanol! Dwi'n synnu os ydi Llafur yng Nghaerdydd, na chwaith Albert Owen, yn hapus hefo'r hyn sydd wedi digwydd. Ac os ydi hynny'n wir, cyn lleied o ddylanwad sydd ganddyn nhw ar ddisgyblaeth y tri a etholwyd wythnos diwethaf...

Difyr oedd clywed ar y newyddion neithiwr na wnaeth y tri hyd yn oed drafod gyda cynghorwyr Plaid Cymru. Yn bersonol, credaf bod hynny yn warthus ac yn hynod anghyfrifol. Byddwn wedi tybio y byddent wedi siarad gyda pawb cyn gwneud penderfyniad, er mwyn medru datgan, llaw ar eu calon, eu bod wedi mynd am y cynnig yr oeddent yn credu fyddai orau i bobl Mon. Sut mae'n bosibl gwneud hynny, a mynd nol ar eich gair i'r etholwyr o ran peidio clymbleidio gydag annibynnwyr, heb drafod o gwbwl gyda'r Blaid? Roedd Bob Parry yn iawn i siarad mor gadarn ynglyn a pha mor siomedig yr oedd o am hynny ar y newyddion neithiwr. Difyr hefyd oedd clywed John Chorlton, cyn arweinydd Grwp Llafur yn y cyngor wnaeth golli ei sedd wythnos diwethaf, yn dweud ar y newyddion y byddai ef wedi trafod gyda'r Blaid... Awrgym o raniad o fewn y Blaid Lafur ym Mon felly dros y penderfyniad?

Beth bynnag, rhaid i ni rwan dderbyn mai dyma'r sefyllfa ym Mon a dymuno pob lwc i'r rhai fydd yn arwain y Cyngor. Fydd hi ddim yn hawdd iddyn nhw cofiwch gyda grwp mor gryf o gynghorwyr Plaid Cymru fel gwrthblaid! A rhag ichi feddwl fod gen i rywbeth yn erbyn yr holl annibynnwyr, wel nagoes siwr. Mae yna nifer o rai da iawn wedi eu hethol, a rhai sydd yn gefnogol i'r Blaid. Yr unig beth sydd yn fy mhoeni ydi sefydlogrwydd y Cyngor, ac o brofiad, rydym wedi gweld nad yw grwp annibynnol gyda'r un disgyblaeth yn aml a grwp sy'n perthyn i Blaid wleidyddol. Cofiwch wedi'r cyfan bod Peter Rogers yn un o'r cynghorwyr annibynnol ar gyngor Mon. Sgwn i pa mor hir fydd hi cyn hi'r ffraeo mewnol gychwyn eto...

Er mwyn pobl Mon, dwi'n gobeithio gwnaiff y glymblaid od yma weithio ac y gwelwn ni bethau'n gwella ar yr Ynys. Dyna sy'n bwysig wedi'r cyfan. Ond trueni mawr na fu ystyriaeth i'r holl opsiynau posibl gan y Blaid Lafur ym Mon.

***

Ar fater hollol wahanol, roedd yn ddrwg gen i glywed ddoe bod Alun Ffred ddim yn sefyll yn Arfon yn yr etholiad nesaf. Credaf ei fod yn Aelod Cynulliad penigamp, a bydd yn golled ar ei ol. Roeddwn wedi gobeithio y byddai yn sefyll am dymor arall o leiaf. Cefais y fraint o ymgyrchu cryn dipyn gydag o yn ystod etholiad 2011 pan oeddwn yn ymgeisydd ar restr y Gogledd ar gyfer y Cynulliad, ac roedd yn brofiad gwych. Gwnaeth gyfraniad mawr i'r Cynulliad yn ei gyfnod yno, yn arbennig tra'n Weinidog, a dwi'n siwr y bydd yn parhau i gyfrannu tan yr etholiad nesaf. Un peth ychwanegol fydd yn sicr yn cael ei golli fydd ei ffraethineb ynghyd a'i hiwmor sych. Mae pob grwp gwleidyddol angen hynny heb os!

Bydd yn ddifyr gweld rwan pwy fydd yn ei olynnu yn Arfon. Mae hi'n sedd yr ydw i wedi ystyried mynd amdani yn y gorffenol, ynghyd ag Ynys Mon, ond nid oes cyfle wedi bod ers sbel i fynd am yr un o'r ddwy. Siwr bod nifer o aelodau eraill o'r Blaid fel finnau gyda penderfyniadau mawr i'w gwneud dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf ynglyn a lle i geisio am enwebiad. Pob lwc i bawb!

Sunday, May 5, 2013

Making Anglesey Proud Again - Adfer Enw Da Mon

I'm still smiling after the fantastic result for Plaid Cymru in the Council elections this week! Link here to my article that appeared on Click on Wales yesterday: http://www.clickonwales.org/2013/05/anglesey-can-become-proud-of-itself-again/

Cafwyd ymgyrch gadarn gan Blaid Cymru ym Mon, gyda tim o ymgeisyddion gwych. Beth oedd yn braf oedd gweld croesdoriad o hen ac ifanc, o gefndiroedd gwahanol, ac yn gymysgedd o ddynion a merched. Falch iawn bod tair wedi eu hethol i gynrychioli Plaid Cymru ar y cyngor, ond siomedig eu bod yr unig dair. Digwydd bod dim ond dwy ferch oedd yn gynghorwyr yn y cyngor diwethaf hefyd, a'r ddwy yn cynrychioli Plaid Cymru.

Cawn weld be ddigwyddith rwan o ran rheoli'r Cyngor, ond dwi'n mawr obeithio bydd Plaid Cymru yn llwyddo i arwain y Cyngor. Dwi'n sicr y gall ein cynghorwyr hen a newydd fynd ati i adfer enw da Mon, a dechrau pennod newydd yn hanes y cyngor.

Thursday, January 31, 2013

Without a language, without a heart

*This blog was published today on Plaid Cymru's blog, the Slate.

As announced yesterday, the number of strongholds where Welsh is spoken as a majority language has fallen. Undoubtedly, this should be extremely worrying for those of us who are concerned about the future of the Welsh language, and give a kick up the backside of those who believe there is no cause for concern to get to grips with the problem before things worsen. The truth is - unless decisive action is taken, the language will die as a community language. If we want to prevent that from happening, we need to act now to ensure the future of the language as a living and dynamic language.

But, how do we achieve this? Many people have many different ideas, and there are others who believe nothing should be done at all. So who is right, and what should the next steps be? Indeed, should we bother to do anything at all, when there are other important challenges we face as a nation, such as strengthening a weak economy?

These questions need to be answered, and answered thoroughly. And this is why Plaid today is launching a consultation on the future of the Welsh language, which will last a year. We want to tackle the tough questions about the future of the language, and give everyone a chance to have their say in Wales - from those who speak the language fluently or are learners to those who are supportive but do not speak it or even those who feel hostile towards the language. Now is the time for us to have an open and honest discussion about it all. After all, the language belongs to everyone in Wales and it is important that everyone contributes to this important debate.

How will the consultation work in practice? The idea is to encourage people to contribute discussion papers on different topics related to the language, which will be published on a dedicated website: http://www.renew.plaidcymru.org/. People will be able to respond to these papers, either with comments by e-mail or by writing their own papers which will also be published on the website. We will also organize public meetings throughout Wales that will be open for everyone to attend, with translation facilities, in order to discuss certain subjects. Details of the meetings will be available by the end of February. When the year has ended, a task force will be established to review all the comments and ideas received and formulate Paid Cymru’s plan to revive the language, to go before our annual conference in October 2014. If these proposals are accepted, this will be the basis of our language policies if we form a government following the 2016 election.

We also believe that concrete steps can be taken now to strengthen the Welsh language, as outlined in the paper which is published today. The Labour Party must review the current policies that are in place, and examine what works, what does not and make the adjustments as needed. One thing is clear - the way the Welsh language is being taught in schools is not working, and there are too few opportunities to use the language in a normalized, day to day manner. There is also too little support for adults who are learning Welsh. There are certain other things that should also be addressed such as reforming public sector procurement by applying Welsh language clauses as social clauses and ensuring that there is specific reference to the Welsh Language in the Sustainable Development Bill,

As Leanne Wood says in her introduction to the paper: "Securing a future for the Welsh language is a core part of our vision for an independent Wales, and we believe that plans to regenerate the Welsh economy can complement a plan to regenerate the Welsh language rather than be at odds with it. Further, we firmly believe that the Welsh language can play an important role in our vision for creating sustainable communities." This is an important argument for strengthening the Welsh language, and one we must look at it in more detail over the coming months if we want to turn it into a reality.

We want to encourage people to suggest radical ideas and practical solutions as part of the consultation. Do not think that everything has to be able to be implemented within the current system. We want to hear your views, so take the time to think and contribute to the discussion.

I'm lucky. Welsh is my first language, and I was brought up in Anglesey where the Welsh language was alive and a natural part of the community. When I was sixteen, we moved to Caernarfon - and there's no avoiding the Welsh language there! Everything was available in Welsh - dentist, doctor, haircuts, food, drink - everything. In fact, I barely needed to speak English – something that’s true of Caernarfon to this day. It's easy for me to be a Welsh speaker, and take for granted the fact that I'm bilingual. But, this isn’t the time to rest on our laurels and hope for the best. The opportunities for people to be bilingual will continue to diminish if we do not take positive action now to ensure the future of the language.

That is why this consultation is truly important. We need to address the concerns and put together a plan that will provide a clear role for the Welsh language a modern and independent Wales. It is said in Welsh – Cenedl heb iaith, cenedl heb galon - A nation without a language, a nation without a heart. We cannot allow Wales to lose a language that is a central part of its very soul and essence.








Cenedl Heb Iaith, Cenedl Heb Galon

*Ymddangosodd y Blog hwn ar flog Plaid Cymru, y Llechen heddiw.

Fel y cyhoeddwyd ddoe, mae nifer y cadarnleoedd lle siaredir y Gymraeg yn bennaf yn disgyn yng Nghymru. Heb os, fe ddylai hyn beri pryder aruthrol i’r rhai ohonom sydd yn poeni am ddyfodol y Gymraeg, a rhoi cic ym mhen ôl y rhai sy’n credu nad oes achos i bryderu i fynd i’r afael a’r broblem cyn i bethau waethygu. Y gwir ydi - oni fydd camau pendant yn cael eu cymryd, bydd y Gymraeg yn marw fel iaith gymunedol. Os ydym ni eisiau atal hynny rhag digwydd, mae angen gweithredu rŵan i sicrhau dyfodol yr iaith fel iaith fyw, ddeinamig.

Ond, sut i fynd o gwmpas hynny? Mae yna amryw o bobl gydag amryw o syniadau gwahanol, ac eraill sy’n credu na ddylid trafferthu gwneud unrhyw beth. Pwy felly sydd yn iawn, a beth ddylai’r camau nesaf fod? Yn wir, ddylem ni drafferthu i wneud unrhyw beth o gwbwl, pan mae yna heriau pwysig eraill yn ein hwynebu fel cenedl, megis economi wan?

Dyma gwestiynau sydd angen eu hateb, a'u hateb yn drylwyr. A dyma pam mae Plaid Cymru heddiw yn lansio ymgynghoriad am ddyfodol yr iaith Gymraeg, fydd yn para blwyddyn. Rydym eisiau mynd i’r afael a’r cwestiynau anodd ynghylch dyfodol yn iaith, a rhoddi cyfle i bawb yng Nghymru gael dweud eu dweud - o’r rhai sydd yn siarad yr iaith yn rhugl neu sydd yn ddysgwyr i’r rhai sydd yn gefnogol ond ddim yn ei siarad neu hyd yn oed y rhai hynny sy’n teimlo’n elyniaethus at yr iaith. Rŵan ydi’r amser i ni gael trafodaeth onest ac agored ynglŷn â hyn oll. Wedi’r cyfan, mae’r iaith yn perthyn i bawb yng Nghymru ac mae’n bwysig bod pawb yn cyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Sut mae’r ymgynghoriad am weithio felly? Y syniad ydi annog pobl i gyfrannu papurau trafod ynghylch gwahanol bynciau yn ymwneud a’r iaith, a’u cyhoeddi ar wefan arbennig:http://www.adfywio.plaidcymru.org/ Bydd cyfle i bobl ymateb i’r papurau hyn, unai gyda sylwadau drwy e-bost neu drwy ysgrifennu papurau eu hunain gaiff eu cyhoeddi ar y wefan. Byddwn hefyd yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru fydd yn agored i bawb fynychu, a gydag offer cyfieithu, er mwyn trafod rhai pynciau penodol. Cyhoeddir manylion y cyfarfodydd erbyn diwedd mis Chwefror. Pan ddaw’r flwyddyn i ben, bydd tasglu yn cael ei sefydlu i adolygu’r holl sylwadau a syniadau, a llunio cynllun adfywio’r iaith Gymraeg Plaid Cymru, i fynd gerbron ein cynhadledd flynyddol yn Hydref 2014. Os derbynnir y cynigion hyn, dyma fydd sail ein polisïau iaith os byddwn yn ffurfio llywodraeth yn sgil etholiadau 2016.

Credwn hefyd fod camau pendant y gellir eu cymryd rŵan i gryfhau'r Gymraeg, fel yr amlinellir yn y papur hwn a gyhoeddir heddiw. Rhaid i’r Blaid Lafur adolygu’r polisïau cyfredol, ac edrych beth sy’n gweithio, a beth sydd ddim a’u haddasu fel bod angen. Mae un peth yn glir - dydi’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu o fewn ysgolion ddim yn gweithio, a does dim digon o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith mewn ffordd normal, o ddydd i ddydd. Does dim digon o gefnogaeth chwaith i oedolion ddysgu Cymraeg. Mae yna bethau penodol eraill y dylid mynd i’r afael a nhw megis diwygio rheoliadau caffael y sector cyhoeddus er mwyn cael cymalau yn ymwneud a’r Gymraeg a sicrhau bod cyfeiriad penodol i’r Iaith Gymraeg yn y Bil Datblygu Cynaliadwy.

Fel dywed Leanne Wood yn ei chyflwyniad i’r papur: “Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn rhan graidd o’n gweledigaeth am Gymru annibynnol, a chredwn fod cynlluniau i adnewyddu economi Cymru yn gallu ategu cynlluniau i adnewyddu’r iaith Gymraeg yn hytrach na gwrthdaro yn ei erbyn. Ymhellach, credwn yn gadarn gall yr iaith Gymraeg chwarae rhan bwysig yn ein gweledigaeth ar gyfer creu cymunedau cynaliadwy.” Mae hon yn ddadl bwysig o blaid cryfhau’r Gymraeg, ac yn un mae’n rhaid i ni edrych arni’n fwy manwl dros y misoedd i ddod os ydym am ei gwireddu.

Rydym eisiau annog pobl i awgrymu syniadau ac atebion ymarferol a radical fel rhan o’r ymgynghoriad. Hynny ydi, peidiwch â theimlo bod rhaid i bopeth gael ei weithredu o fewn y drefn bresennol. Rydym eisiau clywed eich barn, felly meddyliwch a chyfrannwch i’r drafodaeth.

Dwi’n lwcus. Mi gefais i’r Gymraeg fel iaith gyntaf gan fy rhieni, a chael fy magu yn Ynys Môn lle ‘roedd y Gymraeg yn iaith gymunedol, fyw. Pan o’n i’n un ar bymtheg, fe wnaethom ni symud i Gaernarfon - a does dim osgoi'r Gymraeg yno! Roedd popeth ar gael yn y Gymraeg - deintydd, meddyg, torri gwallt, bwyd, diod - popeth. Yn wir, prin ro’n i angen siarad Saesneg - ac mae’n braf bod hynny yn parhau yng Nghaernarfon heddiw. Mae’n hawdd imi fod yn Gymraes Gymraeg, a chymryd y ffaith mod i’n ddwyieithog yn ganiataol. Ond, nid dyma’r amser i orffwys ar ein rhwyfau a gobeithio’r gorau. Prinhau bydd y cyfleoedd i bobl fod yn ddwyieithog os na wnawn ni weithredu yn gadarnhaol rŵan i sicrhau dyfodol yr iaith.

Dyna pam mae’r ymgynghoriad hwn yn un gwirioneddol bwysig. Mae angen i ni roi sylw i bryderon pawb a llunio cynllun fydd yn rhoi swyddogaeth glir i’r iaith Gymraeg mewn Cymru fodern ac annibynnol. Cenedl heb iaith, cenedl heb galon. Fedrwn ni ddim caniatáu i Gymru golli iaith sy’n rhan hanfodol o’i henaid a’i hunaniaeth.

Wednesday, January 2, 2013

Eos yn canu eto?

Roeddwn yn drist o glywed na fu cytundeb rhwng Eos a Radio Cymru erbyn dechrau'r flwyddyn. Roeddwn wir wedi gobeithio byddai'r orsaf yn cytuno i dalu'n fwy anrhydeddus i gerddorion Cymreig. Wedi'r cyfan, mae nhw'n chwarae rôl eithriadol o bwysig o ran ein hiaith a'n diwylliant, a dydyn nhw ddim yn haeddu cael eu cosbi am gyfansoddi caneuon Cymraeg yn hytrach na Saesneg.

Mae'n fy nhristau bod Radio Cymru wedi gadael i bethau fynd cyn belled a hyn, a'u bod nhw rŵan yn gorfod cwtogi dwy awr o ddarlledu bob dydd. Wedi'r cyfan, mae gan yr orsaf rol bwysig iawn mewn hybu cerddoriaeth a diwylliant Cymru - sut mae hi'n mynd i wneud hynny heb y caneuon hyn?

Yn anffodus, mae gwasg Llundain wedi dechrau cymryd sylw ac unwaith eto yn cymryd y cyfle i lambastio'r Cymry a'r iaith. Dyma'r union adeg y dyla ni gyd fel Cymry fod yn gweithio gyda'n gilydd, yn hytrach na'n erbyn ein gilydd, i hyrwyddo'r iaith.

Fel y dywedodd Elfyn LLwyd heddiw, mae'r BBC wedi bod yn ymwybodol o'r broblem hon ers misoedd a dylid bod wedi gwneud mwy i atal y sefyllfa gyrraedd y pwynt yma. Ond, nid dyna a fu a rhaid derbyn hynny. Dim ond gobeithio felly y bydd trafodaethau wythnos nesaf yn rai ffrwythlon, ac yn rhoi diwedd i'r ffrae hon. Ac yn rhoi taliadau tecach i gerddorion sydd yn cyfansoddi yn y Gymraeg.

Blwyddyn Newydd Dda!

Ymddiheuriadau am fod ddiwrnod yn hwyr yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda ichi - ond gwell hwyr na hwyrach! Gobeithio ichi fwynhau'r Nadolig. Diflas bod y cyfan drosodd rŵan. Dwi wir ddim yn edrych ymlaen at dynnu'r goeden i lawr, gan y bydd yn gadael gofod gwag, ond dyna ni - o leiaf cawn wneud y cyfan eto mewn llai na blwyddyn!

Mae 2013 yn argoeli i fod yn dipyn o flwyddyn yn bersonol imi, rhwng cael babi ym mis Mai a phriodi ym mis Medi, ond mae gen i bethau eraill yr wyf yn gobeithio eu cyflawni hefyd. Dyma rai ohonynt isod:

1. Gorffen popeth sydd angen ei wneud yn y gwaith cyn fy nghyfnod Mamolaeth!

2. Helpu Plaid Cymru i ennill mwy o seddi ar gyngor Ynys Môn ym mis Mai. (Efallai na fedra'i wneud lot o ganfasio, ond mi fedra'i helpu mewn ffyrdd eraill!)

3. Sicrhau fy mod yn gwneud fy rôl ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru fel Cyfarwyddydd Polisi ac Addysg Wleidyddol mor effeithiol â phosib.

4. Parhau i wirfoddoli, a chyrraedd targedau codi arian

5. Parhau i ddysgu Mandarin - a gwneud mwy o ymdrech i ddysgu darllen ac ysgrifennu Mandarin, nid dim ond siarad!

6. Sicrhau fy mod yn gwneud mwy i hybu'r Gymraeg, a'r defnydd o'r Gymraeg

Os wna'i hyn i gyd, mi fydda'i yn hapus iawn ar ddiwedd 2013!