Ers dros i flwyddyn bellach, rwyf wedi bod yn mynychu gwersi yng Nghanolfan Addysg Gydol Oes Prifysgol Caerdydd i geisio dysgu Mandarin. Dwi'n meddwl fod o'r pwnc anoddaf dwi erioed wedi ei astudio - hyd yn oed i gymharu gyda Cemeg! Nid yn unig mae yna bob math o synnau newydd i'w dysgu, ond hefyd mi yda ni'n dysgu'r holl symbolau. A mae hynny'n cymeryd cryn amser i'w meistroli!
Fodd bynnag, rhaid i mi ganmol yr adnoddau sydd i'w cael ar y we i fynd ati i ymarfer rhwng gwersi. Mae nhw'n wirioneddol wych, ac mae'n amlwg bod Llywodraeth Tsieina wedi buddsoddi llawer mewn adnoddau dysgu i bobl o dramor. Er dwi ddim yn siwr pa mor aml dwi'n mynd i ddefnyddio ambell i frawddeg, megis "Dwi ddim yn dod o Korea. Dwi'n dod o Tsieina!", mae'r holl iaith wedi ei chyflwyno mewn ffordd ddifyr drwy gymysgedd o sgyrsiau wedi eu hanimeiddio, a hefyd cyfres o ymarferion gwahanol.
Dwi'n cyfarfod nifer o bobl o Tsieina gyda fy ngwaith, ac mae'n braf cael ymarfer ychydig pan ddaw'r cyfle. Er dwi'n bell iawn o fedru bod yn rhugl! Cam nesaf fydd medru ateb pobl yn hytrach na dim ond rhoi gwybodaeth iddynt. Ro'n i wedi gobeithio medru defnyddio fy Mandarin wrth archebu bwyd tsieinaidd yn fy 'take away' lleol ond yn anffodus, Cantonese yw eu hiaith hwy! O wel!
Dwi'n meddwl bod y ffaith mod i'n siarad Cymraeg rhywfaint o help o ran rhai o'r synnau, ond eto, mae yna rai sy'n gyfangwbl newydd hefyd. Mae gen i gydymdeimlad gyda'r rhai sy'n ceisio dysgu'r Gymraeg a dysgu y gwahaniaeth rhwng 'th', 'll, 'rhy', 'chy' ac ati!
Mae gen i brawf yn hwyrach heno, a lot i'w ddysgu cyn hynny! Croesi bysedd bydd rhywfaith yn aros yn y cof!
Hope for Onshore Wind Sanity.
9 hours ago
2 comments:
Da, ti, Heledd. Hwyrach y byddi di'n mwynhau blog Benny Lewis, Fluent in 3 Months, sydd am ddysgu ieithoedd (ond nid yn honni bod dod yn gwbl rhugl mewn tri mis yn posibl). Lot o tips da ac mae blogiad arbennig am ddysgu Tseineeg: http://www.fluentin3months.com/chinese/
@Efrogwr
Diolch o galon!
Post a Comment