Tuesday, March 29, 2011

Ail-afael ynddi

Dwi ddim wedi bod yn dda iawn am ddiweddaru'r blog dros y misoedd diwethaf. Dwn i ddim pam, ond ar ol gwneud cyn gymaint yn ystod yr etholiad y llynedd, dwi wedi ei chael hi'n anodd ail-afael ynddi ers hynny. Ond rwan, a ninnau ar drothwy Etholiad Cyffredinol Cymru, dwi'n nol. A dwi'n siwr y cewch chi lond bol ohona'i rhwng rwan a Mai'r 5ed!

Dwi'n edrych ymlaen i fod wrthi'n ymgyrchu, er y bydd yn brofiad tra gwahanol ymgyrchu ar draws rhanbarth cyfan yn hytrach na fel ymgeisydd mewn un etholaeth. Mae'n anodd iawn gwybod dweud gwir sut orau i fynd o'i chwmpas hi, yn enwedig gan na fydd fy enw ar unrhyw bapur pleidleisio. O'r herwydd, mynd ati fydda'i dros yr wythnosau nesaf i helpu a chefnogi ymgyrchoedd lleol ar draws y Gogledd. Mi ddyla'i fod yn hwyl. Mae yna nifer o ymgeisyddion cryf, a dwi'n edrych ymlaen i ddarganfod pentrefi newydd yn y Gogledd tra'n ymgyrchu hefo nhw.

Rhaid mi gyfaddef fod y gynhadledd penwythnos diwethaf wedi fy ysgogi. Cefais am y tro cyntaf gyfle i wneud araith fer o'r llwyfan tra hefyd yn gwneud yr apel ariannol. Roedd o'n brofiad gwych a dwi'n gobeithio'n fawr nad dyna fydd fy araith olaf o flaen cynhadledd Plaid Cymru! Ro'n i'n meddwl bod yr areithiau i gyd yn ysbrydoledig tu hwnt. Ro'n i'n falch iawn clywed nifer o syniadau beiddgar a gwahanol, oedd yn ein gosod arwahan i'r pleidiau eraill. Roedd Ieuan yn wych - y gorau imi ei glywed erioed dwi'n meddwl - ac i weld yn gyfangwbwl gyffyrddus a pharod at yr ymgyrch. Syniadau ar gyfer trawsnewid Cymru er gwell y byddwn ni fel Plaid yn ei gynnig yn yr etholiad yma. Dim gimmicks. Dim ond syniadau cryf, pendant, a fydd yn creu Cymru well os caiff Plaid y cyfle i'w gwireddu mewn llywodraeth.

Nid spin mo hyn. Ond y gwir. Ychydig flynyddoedd yn ol, roeddwn yn dechrau ofni nad oedd gan y Blaid weledigaeth ddigon cryf i Gymru a fod rhai o'n aelodau wedi dechrau mynd i siarad mewn sound bites. Ond nid dyna'r Blaid dyddiau yma. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio'n galed ar gryfhau ein polisiau a'n syniadau, ac annog ein aelodau i fod yn rhan o ddatblygu polisi. Mae hyn wedi gweithio. Dwi wedi cael cip ar y maniffesto, a dwi'n meddwl ei fod yn ddogfen gynhwysfawr a hynod gyffrous. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i gyflwyno'r holl syniadau hyn wrth ganfasio, a'u trafod ar y stepen drws. Dwi'n sicr y bydd pobl Cymru yn hoffi'r hyn sydd gennym i'w gynnig, ac yn cael sioc fod yna gymaint o syniadau gwreiddiol a gwahanol ynddo.

Ymgyrch gadarnhaol fydd hon i'r Blaid, yn canolbwyntio ar syniadau cyffrous yn hytrach na lladd ar y pleidiau eraill. Mae gennym hyder yn ein syniadau, ac mae gennym hyder ym mhobl Cymru. A chyn hir, byddwn yn cael cyfle i drafod y cyfan yn gyhoeddus ac argyhoeddi pobl i bleidleisio i ni. Dwi'n ysu i gael dechrau...

Thursday, March 3, 2011

Pleidleisiwch Ie!

Wel, mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd a mi gawn gyfle i bleidleisio yn y refferndwm. Beth bynnag arall y gwnewch chi heddiw, heblaw eich bod chi eisoes wedi postio pleidlais bost, os oes gennych bleidlais, cerwch i bleidleisio Ie neu’n hytrach Ydw! Hawdd!

Dyma’r tro cyntaf yr wyf wedi bod yn ddigon hen i bleidleisio mewn refferendwm ynglyn a mwy o bwerau i Gymru. Doeddwn i ddim wedi fy ngeni ym 1979, ac er imi ymgyrchu’n galed am bleidlais Ie yn 1997, ar y diwrnod roeddwn ddau ddiwrnod yn brin o fod yn ddwy ar bymtheg. Drwy gydol fy mywyd fel oedolyn, mae datganoli wedi bod yn reality ac os ydw i byth ddigon lwcus i gael plant, fe fydd o’n hollol naturiol iddyn nhw. Teimlaf yn lwcus a balch fy mod yn rhan o’r genhedlaeth sydd yn medru datgan hynny.

Rhaid cyfaddef nad yw refferendwm heddiw yr un mor allweddol ag oedd un 1997. Er bod pleidlais ie yn allweddol bwysig, mae’n anodd iawn teimlo’n gyffrous ynglyn a’r peth. Fodd bynnag, er mai newidiadau techegol ydyn nhw’n bennaf, mae pleidlais ie yn angenrheidiol. Os y pleidleisiwn ie heddiw, yna ni fydd yn rhaid i ni ofyn i San Steffan am ganiatad i wneud ein cyfreithiau ein hunain mewn meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli. Imi, mae hynny yn bendant werth pleidleisio o’i blaid, ac yn achos dathlu os y llwyddwn i sicrhau pleidlais Ie.

Mae wedi bod yn anodd cael dadl gall gyda’r rhai sydd yn pleidleisio na heddiw, o’i gymharu a’r rhai hynny oedd yn gwrthwynebu ym 1997. Adeg hynny, er fy mod yn anghytuno’n ffyrnig, gallwn ddeall eu dadleuon. Ond mae’r tro yma’n wahanol. Rhaid cydnabod bod datganoli yn bodoli, ac o’r herwydd, bod angen system sydd yn gweithio. Mae’r system LCO yn un hurt, ac mae’n amlwg nad ydi hi’n system effeithiol. Mae’n arafu’r broses ddemocrataidd yn ddi-angen, gan ychwanegu haenen o fiwrocratiaeth. Hefyd, mae’n rhoi llais i Loegr ar ddeddfau sydd dim ond yn effeithio ar Gymru. Sut mae hynny yn ddemocrataidd neu’n deg?

Mae wedi bod yn amlwg iawn fod y gwrthwynebwyr, heblaw am Rachel Banner, wedi bod yn ddynion o oedran arbennig, o gefndiroedd arbennig a lleoliad daearyddol arbennig. Mae nhw wedi bod yn siarad rwtsh llwyr yn y cyfryngau, i’r graddau mod i wedi gorfod gwneud yn siwr nad o’n i’n edrych ar awr gomedi yn hytrach na’r newyddion wrth eu clywed yn siarad. Drwy ddewis peidio bod yn ymgyrch swyddogol, roeddynt yn gwybod y byddent yn medru dweud yr hyn a fynnent heb boeni am wirionedd. Nid yw hon wedi bod yn ddadl deg, ond yn hytrach cyfle i’r rhai sydd yn casau cenedlaetholdeb a datganoli i gael cwyno.

Wrth lwc, mae’r genhedlaeth iau yn deall nad yw’r negatifrwydd yma’n helpu Cymru i ffynnu. Byddai pleidlais Na heddiw yn drychineb. Er na wnaiff pleidlais Ie weddnewidd Cymru dros nos, fe fyddai pleidlais na yn newid pethau’n arw. Byddai yn dangos diffyg hyder yng Nghymru a’i phobl. Rydym wedi cyflawni gymaint mewn amser byr iawn oherwydd datganoli. Os nad ydych yn cytuno gyda rhai o’r polisiau sydd wedi eu gwneud, neu os nad ydych yn hoffi rhai o’r gwleidydidon, yna dewisiwch rai gwahanol ym mis Mai a newidiwch pethau fel yna. Ond peidiwch a chosbi eich cenedl. Pleidleisiwch Ie heddiw am ffordd fwy democrataidd o wneud cyfreithiau yma yng Nghymru, lle y bydd eich llais yn cael ei glywed.

Vote Yes!

Well, the day is finally here when we get to cast our vote in the referendum. Whatever else you do today, unless you've already posted a postal vote, get to the polling station if you're eligible to vote and vote yes! Simple!

This is the first time I’ve been old enough to cast my vote in a referendum relating to powers for Wales. I wasn’t born in 1979, and although I campaigned hard for a yes vote in 1997 and stayed up all-night watching nervously as the results came in, I was two days short of my seventeenth birthday when the votes were cast. Throughout my adult life, devolution has been a reality here in Wales, and if I’m ever fortunate enough to have children, it will be a norm. I’m proud to be a part of a generation that is able to say that.

Admittedly, today’s referendum isn’t as big a deal as the one in 1997. Though a yes vote is completely necessary and essential, it is difficult to get over excited about what is essentially a technical change. However, though the changes are small, that is not to say that they are not significant. If we vote yes today, then we won’t have to ask Westminster permission for passing laws in devolved areas. And that to me is well worth turning out to vote in favour of, and celebrating if we get a yes vote.

It has been difficult to engage in proper debate with those who are voting no in this referendum compared to those who opposed the Assembly in 1997. Back then, though I didn’t agree with those who opposed the Assembly, I understood their arguments and was able to respect them. Yes, I thought they were wrong but I also accepted that if they believed we were stronger as we were, then that was that. But, this time is different. If you accept that devolution is a reality, why then oppose this referendum which is simply making the system more efficient? Legislative Competence Orders are the most stupid things ever invented, and it is clear that the current system of having to go cap in hand to Westminster with these orders aren’t helping Wales progress. They slow down the democratic process unnecessarily, adding an extra layer of bureaucracy. Also, they give England a say in how laws that only affect Wales. How is that fair and democratic?

It has also been notable that the majority of those who have been vocal against the referendum, bar Rachel Banner, have been of a certain age, a certain background and a certain geographical area. They have been spouting so much rubbish in the media, to the extent that I’ve had to check if I’ve been watching the comedy hour rather than the news during some television and radio coverage. By choosing not to become an official campaign, they knew that they’d be able to say what they wanted and could pander to people’s paranoia’s with their lies. This hasn’t been a proper debate, but rather just a chance for those who hate nationalism and devolution to rant.

Luckily, the younger generation seems to understand that this negativity won’t help Wales prosper. Voting no today would be devastating. A yes vote won’t dramatically change our lives overnight, but a vote no would. It would show a lack of confidence and belief in Wales and its people. We’ve achieved so much with devolution in a short time. If you disagree with some policies that have been made, or don’t like some of the politicians, then elect different Assembly Member in May and change things like that. But don’t punish your nation today. Vote yes for a more democratic way of making laws in Wales, where your voice will actually be heard.