Thursday, March 3, 2011

Pleidleisiwch Ie!

Wel, mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd a mi gawn gyfle i bleidleisio yn y refferndwm. Beth bynnag arall y gwnewch chi heddiw, heblaw eich bod chi eisoes wedi postio pleidlais bost, os oes gennych bleidlais, cerwch i bleidleisio Ie neu’n hytrach Ydw! Hawdd!

Dyma’r tro cyntaf yr wyf wedi bod yn ddigon hen i bleidleisio mewn refferendwm ynglyn a mwy o bwerau i Gymru. Doeddwn i ddim wedi fy ngeni ym 1979, ac er imi ymgyrchu’n galed am bleidlais Ie yn 1997, ar y diwrnod roeddwn ddau ddiwrnod yn brin o fod yn ddwy ar bymtheg. Drwy gydol fy mywyd fel oedolyn, mae datganoli wedi bod yn reality ac os ydw i byth ddigon lwcus i gael plant, fe fydd o’n hollol naturiol iddyn nhw. Teimlaf yn lwcus a balch fy mod yn rhan o’r genhedlaeth sydd yn medru datgan hynny.

Rhaid cyfaddef nad yw refferendwm heddiw yr un mor allweddol ag oedd un 1997. Er bod pleidlais ie yn allweddol bwysig, mae’n anodd iawn teimlo’n gyffrous ynglyn a’r peth. Fodd bynnag, er mai newidiadau techegol ydyn nhw’n bennaf, mae pleidlais ie yn angenrheidiol. Os y pleidleisiwn ie heddiw, yna ni fydd yn rhaid i ni ofyn i San Steffan am ganiatad i wneud ein cyfreithiau ein hunain mewn meysydd sydd eisoes wedi eu datganoli. Imi, mae hynny yn bendant werth pleidleisio o’i blaid, ac yn achos dathlu os y llwyddwn i sicrhau pleidlais Ie.

Mae wedi bod yn anodd cael dadl gall gyda’r rhai sydd yn pleidleisio na heddiw, o’i gymharu a’r rhai hynny oedd yn gwrthwynebu ym 1997. Adeg hynny, er fy mod yn anghytuno’n ffyrnig, gallwn ddeall eu dadleuon. Ond mae’r tro yma’n wahanol. Rhaid cydnabod bod datganoli yn bodoli, ac o’r herwydd, bod angen system sydd yn gweithio. Mae’r system LCO yn un hurt, ac mae’n amlwg nad ydi hi’n system effeithiol. Mae’n arafu’r broses ddemocrataidd yn ddi-angen, gan ychwanegu haenen o fiwrocratiaeth. Hefyd, mae’n rhoi llais i Loegr ar ddeddfau sydd dim ond yn effeithio ar Gymru. Sut mae hynny yn ddemocrataidd neu’n deg?

Mae wedi bod yn amlwg iawn fod y gwrthwynebwyr, heblaw am Rachel Banner, wedi bod yn ddynion o oedran arbennig, o gefndiroedd arbennig a lleoliad daearyddol arbennig. Mae nhw wedi bod yn siarad rwtsh llwyr yn y cyfryngau, i’r graddau mod i wedi gorfod gwneud yn siwr nad o’n i’n edrych ar awr gomedi yn hytrach na’r newyddion wrth eu clywed yn siarad. Drwy ddewis peidio bod yn ymgyrch swyddogol, roeddynt yn gwybod y byddent yn medru dweud yr hyn a fynnent heb boeni am wirionedd. Nid yw hon wedi bod yn ddadl deg, ond yn hytrach cyfle i’r rhai sydd yn casau cenedlaetholdeb a datganoli i gael cwyno.

Wrth lwc, mae’r genhedlaeth iau yn deall nad yw’r negatifrwydd yma’n helpu Cymru i ffynnu. Byddai pleidlais Na heddiw yn drychineb. Er na wnaiff pleidlais Ie weddnewidd Cymru dros nos, fe fyddai pleidlais na yn newid pethau’n arw. Byddai yn dangos diffyg hyder yng Nghymru a’i phobl. Rydym wedi cyflawni gymaint mewn amser byr iawn oherwydd datganoli. Os nad ydych yn cytuno gyda rhai o’r polisiau sydd wedi eu gwneud, neu os nad ydych yn hoffi rhai o’r gwleidydidon, yna dewisiwch rai gwahanol ym mis Mai a newidiwch pethau fel yna. Ond peidiwch a chosbi eich cenedl. Pleidleisiwch Ie heddiw am ffordd fwy democrataidd o wneud cyfreithiau yma yng Nghymru, lle y bydd eich llais yn cael ei glywed.

No comments: