Thursday, October 14, 2010

Sicrhau Cyfartaledd

Dydw i erioed wedi bod yn gefnogol o’r syniad o greu rhestrau merched yn unig ar gyfer seddi Cynulliad, na rhoddi merched ar frig y rhestr yn awtomatig ta waeth faint o bleidleisiau oedda nhw’n llwyddo i’w ennill. Oce, mi fysa fo wedi fy helpu i tro yma i fod ar frig rhestr y Gogledd, ond fyswn i ddim wedi bod yn gyffyrddus efo hynny. Ail oeddwn i, a dyna fo. Ond eto, er imi wneud yn dda, mi gesh i sioc o weld bod nifer o aelodau’r Gogledd dim ond wedi rhoi pleidlais i’r ymgeisyddion gwrywaidd, gan ddewis peidio rhoi 4 neu 5 nesa at fy enw i na Liz. Canran fach wnaeth hynny, ond mi wnaeth o fy ysgogi i ddechrau meddwl pam fod yna rai pobl yn parhau i weld gwleidyddiaeth fel rhywbeth i ddynion yn unig? Sut medr merched gyrraedd y brig, heb unrhyw ymyrraeth gan y Blaid?

Un o lwyddiannau mawr y Cynulliad ydi’r ffaith fod y ratio dynion-merched wedi bod yn anhygoel o gyfartal, ond mae yna beryg y bydd pethau’n wahanol iawn ar ôl mis Mai flwyddyn nesaf. Hyd yma, drwy Gymru gyfan, mae’r mwyafrif o ymgeisyddion sydd wedi eu dewis gan bob plaid yn ddynion gwyn o oed arbennig. Y stereoteip perffaith o wleidydd. Heb os, mae angen rhai pobl o’r fath yn y Cynulliad ond nid fel mwyafrif!
O ran Plaid, dwi’n hynod o falch o weld bod merched wedi dod ar frig y rhestr yn nhri allan o’r pum rhanbarth. Da iawn Jocelyn, Leanne a Bethan am brofi nad oes rhaid cael polisi penodol i sicrhau rhif un. Ond eto, nifer fach iawn o ferched sydd wedi eu dewis i sefyll yn yr etholaethau. Yn wir, nifer fach iawn o ferched sydd wedi ymgeisio am yr enwebiadau. Pam hynny felly?

Wrth ystyried pwy sy’n sefyll fel ymgeisyddion yn yr etholaethau a’r rhanbarthau, difyr yw nodi bod y mwyafrif o’r merched yn y De. Does prin neb o’r merched sy’n sefyll yn byw i’r Gogledd o Aberhonddu, ac mae’n rhaid ystyried os oes esboniad ymarferol am hyn. Ydi merched yn llawer llai parod i fod yn bell oddi wrth eu teuluoedd? Ydyn nhw’n gweld Caerdydd yn rhy bell, yn enwedig os oes ganddyn nhw deuluoedd ifanc? Mae’n bosib iawn mai daearyddiaeth sydd felly’n gyfrifol am beth o’r anghyfartaledd.

Ond eto, o edrych ar ganlyniadau rhestrau’r Blaid tro yma, mi wnes i ddechrau meddwl. Fysa gymaint o ferched wedi cyrraedd y brig tro yma tasa’r polisi o’u rhoi nhw’n gyntaf tro diwethaf ddim wedi bod mewn bodolaeth? Drwy gael hwb a mantais gychwynnol gan y Blaid, mi gawson nhw wedyn y cyfle i brofi eu hunain fel Aelod Cynulliad ac ennill eu plwyf. Mae canmoliaeth fawr wedi bod i waith Aelodau Cynulliad benywaidd y Blaid yn y Cynulliad presennol, ac mae aelodau’r Blaid yn amlwg eisiau gweld y rhai presennol yn cael eu hail-ethol ac wedi eu cefnogi. Ond eto, prin iawn ydi’r nifer o wynebau newydd benywaidd fydd yn ymgeisio. Ydi hi’n bosib bod aelodau’n reddfol yn dueddol o gefnogi dynion dros ferched, os ydyn nhw’r run mor amhrofiadol? Ac ydi hi’n bosib bod llai o ferched yn sefyll, gan eu bod nhw’n gwybod hynny?

Dwn i ddim. Does yna ddim ateb syml er mwyn datrys y broblem o ran sut mae sicrhau cydraddoldeb yn y Cynulliad. Y gwir ydi, unwaith mae merched yn Aelodau Cynulliad, mae pawb yn gweld gwerth eu cael yno. Ond i’w cael nhw yno yn y lle cyntaf, mae’n rhaid i ni sicrhau fod digon o ferched yn sefyll ac yn cael eu dewis fel ymgeisyddion. Byddai yn drychineb gweld y Cynulliad yn mynd yn llai cynrychioladol o’n cymdeithas - yn wir, hoffwn weld llawer mwy o groestoriad o ran oedran, lliw, cred, dosbarth cymdeithasol, cefndir ayyb. Dydi gadael y cyfan fyny i siawns ddim yn mynd i weithio, ac mae yna ddyletswydd ar ôl yr holl bleidiau gwleidyddol i daclo hyn dros y blynyddoedd nesaf os yda ni’n mynd i greu senedd sydd yn wirioneddol ddemocrataidd.