Diwrnod tri o'r gynhadledd, ac mae'n syndod pa mor sydyn mae'r amser wedi mynd. Mi oedd ddoe yn gret - digon o drafod a sgwrsio, ac araith Ieuan wrth gwrs. Dwi wedi cael cyfle i gyfarfod nifer o aelodau'r Gogledd, a chael bob math o gwestiynau ganddyn nhw cyn y cyfarfodydd dewis wythnos nesaf. A braf ydi cael gwneud hynny. Mae'r ymateb wedi bod yn gret o ran yr ymgyrch, ac mae hi'n edrych yn dda. Ond cawn weld beth ddigwyddith dros y penwythnos nesaf yma rwan!
Heddiw, dwi'n edrych ymlaen i glywed yr areithiau, yn arbennig felly rhai Dafydd Trystan a Ron Davies, ynghyd a'r drafodaeth hefo Elfyn Llwyd. A wedyn, mae'r rifiw heno sydd wastad yn lot o hwyl.
Mwy wedyn, ond rhag bod ganddo chi ddiddordeb, dyma linc i fy erthygl ar waleshome heddiw: http://waleshome.org/2010/09/plenty-to-smile-about/
Let Down By Two Governments
15 hours ago
0 comments:
Post a Comment