Thursday, March 4, 2010

Hanesyddol

Dyna'r unig ffordd i ddisgrifio heddiw. Mae Mesur Iaith Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ar gyfer cael ei ystyried. Pa mor ffantastig ydi hynny? Deddf ynglyn a'n hiaith wedi ei gwneud yn ein gwlad ein hunain - hen blydi pryd ac achos i ni gyd ddathlu!

Dyma unwaith eto brofi bod Plaid yn llwyddo i gael pethau pendant wedi eu gwneud ers dod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Dwi'n gwybod bod rhai yn hoffi cwyno heddiw gan ddweud nad ydi o'n mynd ddigon pell, ond y gwir ydi, mae hwn yn gam pwysig ac mi fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r iaith. A gwahaniaeth gwirioneddol hefyd. Mi ydw i'n edrych ymlaen yn arw i weld sut bydd y broses yn dod at ei gilydd rwan, a gweld sut bydd rol y Comisiynydd iaith yn datblygu.

Mae o'n rhwystredig clywed rhai o bobl Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod Alun Ffred a'r Blaid wedi bradychu Cymru heddiw gan nad ydi'r union bethau oedda nhw isho yn y mesur. Pam na wnewch chi sylweddoli - DA NI GYD AR YR UN OCHR!! Eisiau'r gorau i'r Gymraeg mae pawb ohona ni, a mae hyn yn newydd da. Mae yna gyfle i bawb fynegi barn rwan, a mi fydd yna gyfle i adeiladu ar be sy'n cael ei gynnig heddiw yn y dyfodol. Y gwir ydi - mae hwn yn gam cyntaf anferthol gan blaid sydd y partner lleiaf mewn llywodraeth sydd gyda hawliau deddfu cyfyngiedig.

Felly - plis rwan - gawn ni beidio ymladd ymgysg ein gilydd fel Cymry Cymraeg? Dwi erioed wedi bod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith ond wrth gwrs dwi'n hynod ddiolchgar o'r gwaith pwysig mae nhw wedi ei wneud o ran y Gymraeg dros y blynyddoedd. Gweithio hefo'n gilydd nid brwydro sydd ei angen a mae o wir yn fy ngwylltio gweld pobl yn troi ar y rhai sydd yn trio cyflawni yr union run petha a nhw. Yn bersonol, dwi'n falch heddiw o fod yn Gymraes Gymraeg ac i fod yn aelod o Blaid Cymru. Nid dyma'r amser i bwdu na thrin y Blaid fel gelyn pam mae hi'r unig blaid sydd yn brwydro o ran y Gymraeg o gwbwl ac sydd wedi llwyddo i greu deddf fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r Gymraeg! Mae Cymru wedi aeddfedu yn aruthrol yn wleidyddol ers dyfodiad y Cynulliad ac mae angen i'r drafodaeth hon adlewyrchu hynny.

2 comments:

Rhys Llwyd said...

Haia Heledd,

Yr unig broblem sy efo fi gyda'r syniad yma o ddeud ein bod ni i gyd yn y mudiad cenedlaethol "ar yr un ochr" ydy'r ffaith foel fod y Blaid (efo'r Blaid Lafur) wedi llunio Mesur sy fwy at ddant y CBI Gyfalafol na gweddill y mudiad cenedlaethol.

Felly y cwestiwn syml ydy hyn. Yda ni wirioneddol ar yr un ochr? Mae'r ffaith fod Rhodri Morgan (gyda Ieuan Wyn Jones yn bresennol yn rhai o'r cyfarfodydd) wedi gwrthod cyfarfod efo CYI i drafod yr LCO Iaith yn ystod y broses ond wedi cyfarfod dros 10 o weithiau gyda'r CBI yn yr un cyfnod (FOI ddatgeloedd hyn) i drafod yr LCO Iaith yn awgrymu fod y Blaid wedi dewis yr ochr anghywir.

Os gai ddeud, gobeithio allw ni ddim mynd yn bersonnol yn ein dadleuon o leiaf gan ganolbwyntio ar ddadlau'r egwyddorion moesol a'r ffeithiau yn unig.

Pob hwyl,

Rhys :-)

Hogyn o Rachub said...

Cytuno efo chdi Heledd, cam pwysig i'r iaith. Efallai nad ydyw'n union beth yr hoffai yr un ohonom ond mae'n welliant dwi'n meddwl - a dwinnau'n bersonol yn fodlon ymddiried yn Alun Ffred yn hyn o beth.

Ond ni ddylid beirniadu'r Gymdeithas gormod, chwaith. Mae'n bwysig, yn enwedig รข'r Blaid mewn llywodraeth, cael rhywun yn ymgyrchu ac, i bob pwrpas, cwyno i gryfhau'r fath fesurau oherwydd mae'n atal y Blaid ei hun rhag troi'n rhy hunanfodlon a diog.

Wedi'r cyfan, rydym oll dwi'n siwr am weld mesur cryfach, gorau po gyntaf ond yn sicr ar ryw bwynt yn y dyfodol, ond dwi'n amau a gawn un oni fydd Cymdeithas yr Iaith a'u tebyg yn brwydro drosto rwan.

O ran brwydr yr iaith, dim ond Plaid Cymru all ac a fydd yn cyflawni deddfwriaeth, ond rhaid o hyd cael sbardun i hynny.