Friday, September 11, 2009

Yr ail ddiwrnod

Wel, maen ddrwg gen i nad ydw i wedi bod yn blogio gymaint a hynny o'r gynhadledd ag o'n i wedi bwriadu. Arwydd da mewn ffordd - dwi di bod rhy brysur yn cymeryd rhan ag yn sgwrsio hefo bobl go iawn! Mae hi'n mynd yn wych yma - awyrgylch ffantastig. Wnesh i wir mwynhau cadeirio sesiwn ddoe - mi wna'i flogio eto amdano - ac roedd fy nhim yn fuddugol yn Have I Got News For Plaid!

Gobeithio ga'i bum munud fory i sgwennu'n iawn. Mwy o bethau i fynd iddyn nhw rwan a cinio heno. Hwyl am y tro!

No comments: