Thursday, September 10, 2009

Cynhadledd - o'r diwedd!

Wel, mae'r gynhadledd wedi dechrau. Nifer o bobl yma'n barod a teimlad hyfryd - llawn cyffro a pawb yn barod am dridiau o drafod, dal fyny, ysgogi a mwynhau. Mae yna gymaint o sesiynau difyr ymlaen - anodd penderfynnu beth i fynd iddo sy'n broblem braf iawn. Mi fyddai yn siwr o flogio pan fydd amser, felly cadwch lygad ar y blog. Dwi'n cadeirio sesiwn prynhawn yma - Pa ddyfodol i Gymru ar ol etholiad 2010 - gyda big hitters go iawn - Wigley, Ron Davies, Eurfyl ap Gwilym a Myfanwy Davies. Edrych mlaen i gadw trefn arnyn nhw i gyd! Hefyd yn siarad yng nghyfarfod ymylol comisiwn newid etholiadol Cymru a wedyn ar y panel ar gyfer Have I got News for Plaid heno felly diwrnod digon prysur. Tan wedyn...

No comments: