Tuesday, June 23, 2009

Pythefnos i fynd...

Wel, gen i bythefnos i fynd tan y Race for Life rwan. Dwi wedi bod yn gwneud llwyth o ymarfer corff dros y mis diwethaf yma, ond dal yn eitha nerfus. Dwi'n benderfynnol mod i'n mynd i redeg y cyfan (dim ond 5k ydi o)er bod fy ysgwydd i'n lladd bob tro dwi'n rhedeg mwy na deg munud ar y funud. Sgen rhywun sydd erioed wedi dioddef o whiplash unrhyw tips ynglyn a sut mae cryfhau'r cefn a'r gwddw fel bod fy ysgwydd ddim yn gwichian, clicio a brifo? Methu coelio bod o dal mor boenus a hyn bron i dair blynedd ar ol ei frifo yn y lle cyntaf. Wedi trio Osteopath, Chiropractor, Accupuncture, physio... dim byd yn tycio. Byddai unrhyw gyngor yn cael ei werthfawrogi!

3 comments:

Cangen Bontnewydd Branch, Plaid Cymru said...

paid a'i neud o?

Heledd Fychan said...

Wel dyna un ffordd, ond dwi bendant yn ei wneud o. Rhedeg er cof am rhywun oedd yn annwyl iawn imi wnaeth farw o gancr felly dwi'n benderfynnol.

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Ti wedi trio rhai o'r pads deep heat neu ralgex arno..neu ma yna tecylun massage bach i gael o Argos dwi'n meddwl? Tria hynny..neu potel dwr poeth ar dy ysgwydd neu chydig o rew...Cyngor fel na oeddwn i yn ei gael blynyddoedd nol pan oeddwn yn trio chwarae rygbi ac yn brifo'n ysgwydd yn aml.
Pob lwc i ti efo'r ras.