Saturday, April 18, 2009

The Edge of Love

Ar ol misoedd o edrych mlaen i weld y ffilm, The Edge of Love, nesh i rentu hi wythnos yma a'i gwylio. Rhag ofn nad yda chi'n gwybod, ffilm ynglyn a Dylan Thomas ydi hi ac mae'r actor hynod o dalentog (a rhywiol) Matthew Rhys yn actio'r bardd. Dwi mor siomedig. 'Roedd y ffilm yn anobeithiol. Roedd Matthew Rhys yn wych, ond roedd y sgript a'r ffordd roedd hi wedi ei saethu jest ddim yn gweithio. Roedda nhw'n trio bod yn greadigol ond doedd o ddim yn effeithiol. A well mi beidio son am yr acenion Cymraeg gan Keira Knightley a hefyd Sienna Miller (er, Gwyddeles oedd hi fod)... Felly os da chi heb ei gweld hi, peidiwch. Wir ddim werth y drafferth.

1 comment:

Simon Dyda said...

Iawn. Fel mae'n digwydd, fel arfer dw'i ddim yn gwylio ffilmiau efo'r gair 'love' yn y teitl onibai fod geiriau fel 'chainsaw', 'vampire(s)' neu 'rabies' ynddo hefyd.