Saturday, April 11, 2009

Being Human..

Dwi chydig ar ei hol hi yn sgwennu hyn, ond dim ond heddiw diolch i iplayer nesh i weld y bennod olaf yn y gyfres Being Human. Ac ew, nesh i fwynhau a dwi'n edrych mlaen yn barod at yr ail gyfres. Ma'n un o'r rhaglenni gorau sydd wedi bod ar y bocs ers tro.

Os na welso chi hi, y plot yn fras ydi hanes tri person sy'n byw gyda'u gilydd. Ond dyma'r peth anghyffredin - mae na un yn ysbryd, un yn vampire a'r llall yn wearwolf! Fysa chi ddim yn disgwyl i gyfres o'r fath fod cystal ond roedd y sgwennu yn anhygoel o dda - digri, teimladwy a dramatig. Ac roedd yr actor oedd yn chwarae rhan y vampire yn anhygoel o olygus, hyd yn oed pan oedd o'n lladd pobl!

Ma'n braf gwylio rwbath ysgafn weithia er mwyn ymlacio. DVD amdani heno -Edge of Love - tra'n bwyta wy pasg. Nefoedd!

2 comments:

Plaid Preseli said...

Being Human - swnio'n debyg ofnadw i Lib Dems Cymru i fi.

Simon Dyda said...

Mae'r rhaglen yn wych!