Tuesday, May 20, 2008

Gostwng y Trothwy Erthylu (Lowering the Aborion Limit)

Mae yna bleidlais ar hyn yn San Steffan heddiw. Dwi'n falch bod Aelodau Seneddol yn cael pleidlais rydd ar hyn - mae o'n fater hollol bersonol, a ddylai yr un plaid orfodi unrhyw un i bleidleisio un ffordd neu'r llall. Fe ofynodd un o'r AS dwi'n gweithio iddynt yn gynharach sut y byddwn i'n pleidleisio, a dyma fy ateb.

Tasa gen i bleidlais, byddwn yn dewis gostwng y trothwy o 24 wythnos i 20. Mae'r rhesymau am hyn yn syml. Erbyn 24 wythnos da chi'n teimlo'r babi'n symud a cicio. Da chi'n edrych yn feichiog. Yn waeth na dim, mae rhywun yn gorfod rhoi genedigaeth i blentyn marw. Mi fysa hynny'n beth hollol traumatic i fynd drwyddo, a dwi'n meddwl bysa fo'n well yn seicolegol i rywun roi'r plentyn fyny i gael ei fabwysiadwy yn hytrach na mynd drwy enedigaeth o'r fath. Dwi'n deall y dadleon ynglyn a pam y dylid cadw'r trothwy fel y mae o, ond eto dwi'n teimlo bod 20 wythnos yn llawer mwy synhwyrol. Mae rhywun yn hollol ymwybodol erbyn hynny eu bod nhw'n feichiog ac wedi cael hen ddigon o amser i benderfynnu naill ffordd neu'r llall...

Yn gyffredinol fodd bynnag, dwi'n meddwl fod angen edrych o ddifrif ar y ffordd mae erthylu yn cael ei weithredu ym Mhrydain. Dwi yn hollol feddwl agored ynglyn a erthylu, ac yn gant y cant gefnogol i roddi dewis o ran hyn i unrhyw un. Ond eto, dwi yn poeni ei bod hi mor hawdd cael erthyliad a hynny heb i neb roddi cefnogaeth gwirioneddol i'r fam yn gwneud y penderfyniad anodd hwnnw. Na chwaith yn cynnig cefnogaeth o unrhyw fath wedyn. Mae'r rhestrau aros er mwyn gweld seicolegydd yn faith, ac yn aml yn rhy hwyr i helpu unrhyw un wneud penderfyniad. Dydi hyn ddim yn iawn. Dyma'r drafodaeth ddyla AS fod yn ei gael heddiw yn fy marn i.

Dydi erthylu ddim yn bwnc mae pobl yn hoffi ei drafod. Mae gan nifer o bobl safbwyntiau cryf a phendant iawn ar y mater, a dwi'n parchu hynny. Ond eto, rhaid derbyn bod hyn yn realiti. Rhaid cael system well er mwyn helpu'r merched hyn, ac mae hynny'n golygu rhoi emosiynau o'r neilltu a meddwl am y peth yn rhesymegol. Tasg anodd, ond nid amhosibl yn fy marn i.

[I'm arguing in favour of lowering the abortion limit from 24 weeks to 20 weeks. Mainly though, I would like to see the whole system overhauled so that proper counselling is available prior to and after making the decision to abort. We need to take the emotion out of the debate and think of this logically and realistically so that those who make difficult decisions get the support they need.]

Monday, May 19, 2008

Realisation

I've only recently started accepting that despite my somewhat irrational objections whenever someone else has said it, I'm actually in my late twenties. That's a scary thought, especially as I'm nowhere near achieving what I thought I would have achieved by now when I was eighteen. And its even scarier given I still seem to be trying to hang on to my youth! Despite the fact that my hangovers are getting worse, that most men seem to young to be out let alone chatting me up and that I sometimes complain that the music seems to be playing too loud or that there are no seats in some clubs, I'm still acting like I'm twenty three.

Don't get me wrong, I don't think there's anything wrong with continuing to have an active social life, no matter how old you are. I think the worse thing anyone can do, even when they're married and have kids, is forget how to have fun. But there does come a point when you need to change the type of socialising you do, and that's where I'm at now. I'll always love to dance. And I'll always love cheesy music. Plus karaoke. BUT, its time to start going to places with a slightly older clientèle. Its not fun when eighteen year olds start flirting with you, especially when you know it means one of three things: a) they're desperate for sex and will chat up anything b) their friends have dared them to chat up an older woman or c) they have a mummy fixation. None are good. And none are an ego boost...

I guess I'm just starting to realise the extent to which most of my friends are by now married, engaged or living with someone. Some have kids, and others are planning to have them soon. I'm not ready for any of that for the foreseeable future but it doesn't stop me wondering how I've ended up choosing a different path. Am I selfish that I still feel too young to want that at the moment? Or have I just not met the right person? I'm not sure. I'm certainly happy for my friends who are settled and happy. But I'm not jealous. Well, not yet anyway!

Everyone grows up at different points in their lives. Up until we are sixteen, most of us seem to be on the same track. Then we go our separate ways, at different paces. There's no wrong or right way to go about things - everyone has to do what's right for them. And the beauty of it, you can always change your life if you so wish to do so. We only get one chance to be happy, and I think life is too short to make the choices that you think you should be doing to please everyone else, and yet leave you feeling miserable.

So, in a nutshell, that's my excuse for being where I am and how I am! God, I really am rambling in this blog...

Saturday, May 17, 2008

Dechrau...

Waw. Gofod hollol wag, gyda digon o le i mi fwydro. Peryg iawn!

Dwi'n eistedd yn fy ystafell wely yn Llundain am y tro cyntaf ar benwythnos ers deuddeg wythnos. Mae yna gymaint o bethau wedi bod yn mynd ymlaen dros yr wythnosau diwethaf yma - o gemau rygbi i etholiadau lleol, partion penblwydd i noson Bafta - amrywiaeth llwyr a dweud y gwir. Mae'n braf cael y cyfle i wneud dim am ddau ddiwrnod cyfan, a dyna'n union dwi'n bwriadu ei wneud heddiw a 'fory.

Dwi dal ddim yn teimlo fel fy mod i go iawn yn byw yn Llundain. Mae'n od. Dwi'n treulio mwy neu lai drwy'r dydd, bob dydd, yn siarad Cymraeg yn y swyddfa yn San Steffan a mae cyfran helaeth o fy ffrindiau yma yn Gymru hefyd. Ar ol blynyddoedd o fyw draw yn yr Iwerddon, mae yna rywbeth braf iawn am gael y cyfle i siarad fy mamiaith mwy neu lai bob awr o'r dydd. Ond eto, dwi'n cael byw yn y ddinas fawr ddrwg sydd yn llawn direidi. Mae'n gyfuniad perffaith a deud y gwir, yn enwedig os ydi rhywun yn ifanc a heb unrhyw gyfrifoldebau teuluol. Wrth gwrs, mi fysa ennill Euromillions yn gwneud petha hyd yn oed yn well yma, ond drwyddi draw, dwi'n mwynhau'r chydig amser dwi yn cael ei dreulio yma. Fydd rhaid i mi drio treulio mwy o benwythnosau yma er mwyn setlo'n iawn. Na'i adael i chi wybod os dwi'n llwyddianus yn hynny o beth neu beidio!