Wednesday, November 19, 2008

Lle mae Cymru?


Dwi ddim yn disgwyl bod nifer o ddarllenwyr fy mlog yn prynnu'r Telegraph yn ddyddiol, felly meddwl y byddwn yn tynnu eich sylw at stori sydd gan Elfyn Llwyd ynddo heddiw. Cyn clicio arni, edrychwch ar y logo ar y dudalen yma. Fedrwch chi weld beth sydd i fod i gynrychioli Cymru? Da chi dipyn fwy praff na fi os fedrwch chi! Neu da chi wedi twyllo a wedi clywed am y stori eisioes...

Mae'r Telegraph bach yn OTT, yn dweud bo ni fel cenedlaetholwyr yn outraged. Siomedig fyddai'r gair priodol. Ond dio'm fel bod o'n sioc. Da ni 'di hen arfer do'n anffodus gweld Cymru'n cael ei hepgor gan sefydliadau Prydeinig.

2 comments:

Cemlyn Davies said...

Stori ddiddorol. Diolch am ei phwyntio hi allan. Dwi'n meddwl bo ti'n gywir wrth ddweud taw siomedig fyddai'r gair priodol. Mae pobl yn Llundain yn cwyno am Gymry sydd yn brwydro am fwy o bwerau ac ati ond y gwir yw taw camgymeriadau fel hyn sydd yn annog cenedlaetholwyr i geisio pellhau'u hunain o'r Ddeyrnas Gyfunol.

Heledd Fychan said...

Digon gwir!