Sunday, September 14, 2008

Mwy o gadarnhad bod Lembit yn Lembo

Diolch i Vaughan Roderick yn ei flog am dynnu ein sylw ni oll at bôl piniwn sydd wedi bod yn cael ei gynnal ar flog y "Liberal Democrt Voice", yn edrych ar aelodau mwyaf a lleiaf effeithol cabinet y Democratiaid Rhyddfrydol.

Vince Cable gafodd y sgor orau gyda +96.9% a prin fyddai unrhyw un yn anghytuno gyda hynny. Dwi'n siwr fyddai ben yn anghytuno chwaith gyda pwy sydd ar y gwaelod gyda sgor o 35.4%... yr hen Lembit Opik. A cofiwch, mae hyn ymysg ei blaid ei hun! Mae nhw hyd yn oed yn medru gweld drwyddo. Gobeithio bydd etholwyr Maldwyn yr un mor gall pan ddaw yr Etholiad Cyffredinol nesaf!

No comments: