Monday, June 30, 2008

Adolygiad o lyfr Marc Morris - ‘A Great and Terrible King. Edward I and the Forging of Britain’. Cyhoeddwyd yn rhifyn Mai o Barn.


Yn draddodiadol, dydi’r rhan fwyaf o Gymry ddim yn rhyw hoff iawn o Edward I. A dweud y gwir, mae yna ganran go helaeth o bobl yn ei gasau. Wedi’r cyfan, dyma’r Brenin canoloesol a oedd yn teyrnasu dros Loegr pan goncrwyd Cymru ym 1282-83. Ef wnaeth sicrhau fod pen ein harwr cenedlaethol, Llywelyn ap Gruffydd neu Llywelyn ein Llyw Olaf, yn cael ei arddangos ar ben Twr Llundain hyd nes bod y brain wedi bwyta pob un tamaid o gnawd oddi arno. A phwy all anwybyddu’r holl gestyll a adeiladodd ledled y wlad, megis rhai Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech? Efallai fod y cestyll hyn yn ddefnyddiol bellach o ran dennu twristiaid i Gymru, ond mae nifer ohona ni yn ymwybodol iawn o’u harwyddocad. I ddarostwng y Cymry y’i codwyd ac i sicrhau ein hufudd-dod i Goron Lloegr. Does ryfedd felly fod cyn gymaint ohona ni’n llawn dirmyg tuag at Edward I, hyd yn oed ganrifoedd ar ôl ei farwolaeth.

Er i mi wneud TGAU a lefel A mewn Hanes tra yn yr ysgol, chefais i erioed wers hanes swyddogol ynglŷn â hanes Cymru yn yr oesoedd canol. Yn wir, prin y cefais ddysgu dim am hanes fy ngwlad fy hun yn ystod unrhyw gyfnod – ffaith sydd yn dal i fy nghynddeiriogi hyd at heddiw. Yn hytrach, tra’n astudio ‘Cerddi’r Cywilydd’ gan Gerallt Lloyd Owen fel rhan o fy nghwrs lefel A yn y Gymraeg y ces fy nghyflwyniad ffurfiol cyntaf i’r cyfnod. Dysgais y gyfrol honno o farddoniaeth ar fy nghof, a chreodd gryn argraff arnai. Dechreuais eilyn-addoli Llywelyn a casau Edward I am yr hyn a wnaeth i Gymru. ‘Roedd hi’n 1997 ac ‘roedd refferendwm y Cynulliad ar y gorwel. Er fy mod yn rhy ifanc i bleidleisio, ro’n i’n grediniol mai dyma oedd cyfle Cymru i ddial ar y Saeson am yr hyn yr oeddan nhw wedi ei wneud i Gymru ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg ac ro’n i’n fwy na hapus i leisio’r farn honno.

Dwi’n siwr y byddwch yn falch o wybod nad ydw i cweit mor eithafol a hynny bellach. Ar ol cwbwlhau fy lefel A, esh i draw i’r Iwerddon i ddilyn gradd mewn Hanes yr Oesoedd Canol a Gwleidyddiaeth yng Ngoleg y Drindod, Dulyn. Yno, am y tro cyntaf erioed, y cefais fy nghyflwyno i hanes Cymru o bersbectif hollol wahanol. Er bod rhai o fy narlithwyr yn ei chael hi’n anodd yngan enwau rhai o’n harweinwyr canol-oesol, roedda nhw’n deall pwysigrwydd rhoddi hanes y cyfnod o fewn cyd-destun ehangach. Sicrhaodd hyn fod ein dealltwriaeth a’n dehongliad ni fel myfyrwyr o ddigwyddiadau’r cyfnod yn llawer mwy cytbwys. Yn wir, y wers bwysicaf a ddysgais oedd na ellid canolbwyntio’n unig ar yr hyn oedd yn digwydd o fewn Cymru os am amgyffred y darlun cyflawn. Hefyd, doedd rhai o’n harweinwyr a’n harwyr ninnau ddim yn berffaith. Roedda nhw’n ddynol ffaeledig fel pawb arall. Yn wir, dwi ddim yn siwr bellach pa mor hoff fyswn i o Llywelyn ein Llyw Olaf taswn i’n byw yng Ngwynedd yn ystod ei deyrnasaiad. ‘Roedd o’n codi trethi hallt ar drigolion yr ardal, ac o’r herwydd ‘roedd yn gymeriad eithaf amhoblogaidd erbyn diwedd ei oes.

Oherwydd fy niddordeb yn y cyfnod, roeddwn i’n hynod o falch cael y cyfle i adolygu cyfrol Marc Morris ar Edward I. Wedi’r cyfan, fe drawsnewidiodd Edward hanes ynysoedd Prydain yn ystod ei deyrnasiad. ‘Roedd yn gyfnod cyffrous, ac mae yna nifer o lyfrau difyr wedi eu hysgrifennu am yr hyn a ddigwyddodd. Yn wir, wedi gweld teitl y llyfr – ‘A Great and Terrible King. Edward I and the Forging of Britain’ – ‘roedd gen i ddisgwyliadau uchel i’r gyfrol. ‘Roeddwn i’n disgwyl thriller.

Mae Morris yn hanesydd cydnabyddiedig a gwbwlhaodd ei ddoethuriaeth yn Rhydychen. Yn wir, R. R. Davies a Michael Prestiwch, dau ‘Dduw’ yng ngolwg nifer o haneswyr yr oesoedd canol, oedd arholwyr ei ddoethuriath. Morris hefyd oedd cyflwynydd y gyfres Castles a ddarlledwyd ar Sianel Pedwar yn 2003. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ffan mawr o’r gyfres honno, yn aml gan nad oeddwn yn cytuno rhyw lawer gyda dehongliadau Morris o hanes rhai o’r cestyll Cymreig. Yn wir, dwi’n cofio meddwl ei fod yn nodweddiadol o hanesydd Seisnig. A dyna wrth gwrs ydi o. Er gwaetha’r ffaith mai Marc gydag ‘c’ yn hytrach na ‘k’ ydi Morris, does ganddo ddim cysylltiad â Chymru. Mae’n cael rhyw fath o faddeuant am bod ei Dad yn Wyddel - ond fel arall Sais ydi o sy’n abrenigo’n bennaf ar hanes Lloegr. A digon teg yw hynny.

Ei fwriad yn y gyfrol hon oedd ysgrifennu bywgraffiad o Edward I – y bywgraffiad cronolegol cyntaf ohono i gael ei ysgrifennu ers cyn y rhyfel byd cyntaf. ‘Roedd Powicke a Prestwich, sef dau arbenigwr mawr yr ugeinfed ganrif ar Edward I, ill dau wedi ysgrifennu bywgraffiadau neu astudiaethau oedd yn edrych ar deyrnasiad Edward yn ol themau unigol. Difyr felly oedd syniad Morris o fynd ati i ysgrifennu cyfrol oedd yn dilyn hanes Edward o’r crud i’r bedd..

Mae yna ôl ymchwil manwl a thrylwyr ar yr astudiaeth. Yn wir, dydw i ddim wedi dod ar draws unrhywbeth amlwg y mae Morris wedi anghofio ei grybwyll. Dwi wedi dysgu nifer o bethau buddiol wrth ddarllen y gyfrol. Er enghraifft, do’n i erioed wedi ystyried cyn hyn pam bod Edward I yn cael ei alw’n Edward I pan oedd brenhinoedd eraill gyda’r un enw wedi teyrnasu cyn hynny, megis Edward y Cyffesydd? Yn wir, yn ol Morris, Edward IV oedd Edward I mewn gwirionedd. Er mwyn datrys hyn, gallwn ddweud mai ef oedd y Brenin cyntaf i arddel yr enw Edward wedi’r concwest Normanaidd ym 1169, ac felly ei bod yn gwneud synnwyr i’w alw’n Edward I.

Difyr hefyd yw’r pwyslais a roddodd Morris ar y ffordd y gwnaeth Edward I ymdrin ag Iddewon yn ystod ei deyrnasiad. Ymhell cyn dyddiau Hitler,‘roedd Edward wedi eu herlid a’u lladd wrth eu miloedd. Er bod hyn eisioes wedi cael sylw mewn amryw o astudiaethau, mae Morris yn gwneud cyfiawnder â’r anghyfiawnder amlwg hwnnw, drwy ei osod o fewn cyd-destun y cyfnod. Nid yw’n barnu a dadansoddi’r hyn a wnaeth Edward yn unol â safonnau heddiw, gan felly fod mor gytbwys ag mae modd bod “[Edward] was, it is true, the first European leader to carry out an expulsion on a nationwide scale, but this only goes to show that he was a powerful leader of a preconsciously united Kingdom”.

Rhoddir sylw digonol gan Morris i holl frwydrau Edward yng Ngymru, yr Alban a Ffrainc ynghyd a’r croesgadau amrywiol y bu’n rhan ohonynt. Mae’n rhestru’n gronolegol yr hyn ddigwyddodd mewn ffordd deg iawn, gan dynnu sylw at wendidau a chryfderau pob carfan wahanol. Ond eto, nid yw’n dod a’r brwydrau gwaedlyd hyn na’r cymeriadau oedd yn rhan ohonynt, megis Llywelyn, Robert Bruce, William Wallace ynghyd a Philip IV o Ffrainc, yn fyw i’r darllenydd. Yn wir, er mod i wedi dysgu llawer amdanyn nhw oll, dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n gwybod rhyw lawer amdanyn nhw mewn gwirionedd. Arwynebol hefyd yw’r hyn y mae’n ei ddweud ynglyn a pherthynas Edward gyda’r wahanol ranbarthau a chymeriadau. Esh i’n flin iawn fwy nag unwaith efo Morris am ei fynych gyfeiriadau at yr Alban a Chymru fel ‘celtic cousins’ , heb esbonio arwyddocad hynny na chwaith egluro pam yr oedd yn dweud hynny. Ymddangosai hyn braidd yn or-syml fel dadansoddiad. Gyda chymaint bellach wedi ei ysgrifennu am gydberthynas y gwahanol wledydd a rhanbarthau o fewn ynysoedd Prydain yn yr oesoedd canol, roeddwn yn disgwyl gwell.

Dyma wendid pennaf y llyfr. Er bod y ffeithiau i gyd yno, mae ’r ymdriniaeth a’r dehongliad yn eithaf arwynebol. Mae yna dueddiad, gan ei fod wedi ei ysgrifennu’n gronolegol, iddi ymddangos fel petai Morris yn rhestru yn hytrach na dadansoddi’r hyn ddigwyddodd. Dyma pam, dwi’n amau, y gwnes i syrthio i gysgu droeon wrth ddarllen y llyfr. Er fy mod yn cael y ffeithiau yn hynod ddifyr, ynghyd a’r cynnwys, doedd dim ynglyn a’r arddull yn fy nghyffroi. ‘Roedd y pennodau’n hir, ac yn waeth na dim, yn feichus a llafurus i’w darllen hefyd. Tydi hynny byth yn arwydd da. Dwi’n cofio rhuthro i ddarllen llyfr hanes Cymru R. R. Davies, The Age of Conquest, er gwaetha’r ffaith ei fod yn lyfr eithaf trwm. Does dim rhaid i hanes y canol oesoedd gael ei ysgrifennu mewn arddull mor ddi-fflach. Yn hynny o beth, dwi’n feirniadol iawn o Morris.

Efallai felly mai prif broblem yr astudiaeth yw’r ffaith bod yr awdur wedi dewis ymdriniath gronolegol yn hytrach na thematig. Dwi’n meddwl y byddai ei ysgrifennu yn thematig wedi ysgafnhau rhywfaint ar y llyfr, gan ei wneud yn llai llethol. Byddai hefyd wedi rhoi cyfle i Morris gynnig mwy o ddehongliadau yn hytrach na dim ond adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd.

Serch hynny, mewn rhyw ffordd od, dwi’n meddwl bod Morris yn llwyddo i wneud cyfiawnder ag Edward ei hunan. Mae’n ei bortreadu mewn ffordd gydymdeimladol, ac yn tynnu sylw at yr hyn a gyflawnodd Edward yn ystod ei deyrnasiad. Yn hynny o beth, byddwn yn awgrymu bod y llyfr hwn yn fan cychwyn da i unrhyw un sydd eisiau gwneud ymchwil pellach i fywyd Edward. Mae’n gosod sylfaen gadarn gan ei fod yn dilyn gyrfa y brenin hwn o’r cychwyn i’r diwedd. Yn bersonol, fodd bynnag, credaf bod llyfrau Powicke a Prestwich dipyn difyrrach os mai dim ond un llyfr am Edward I mae rhywun eisiau ei ddarllen. Er nad ydi llyfr Morris ymhell o fod yn fethiant, dwi’n ei chael hi’n anodd iawn ei argymell gan na wnaeth fy ysbrydoli mewn unrhyw ffordd. Heblaw, wrth gwrs, eich bod chi’n insomniac. Os felly, dwi’n awgrymu’n gryf iawn eich bod yn prynu copi, a hynny ar fyrder. Gewch chi noson wych o gwsg!

No comments: